Eirwyn George: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 27:
Wedi iddo adael Ysgol Ramadeg Arberth yn bymtheg oed, aeth adref i ffermio yng Nghastellhenri am ddeuddeg mlynedd. Ar ôl treulio cyfnod yn astudio yng Ngholeg Harlech ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, aeth ati i dreulio blwyddyn yn yr Adran Addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth fel Cynorthwyydd Ymchwil i baratoi Geiriadur Termau ar gyfer dysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol a choleg. Ar ôl cwblhau ei ymarfer dysgu, cafodd swydd fel athro yn Ysgol Uwchradd Arberth sef ei hen ysgol ramadeg. Penodwyd Eirwyn i ddysgu’r Gymraeg drwy’r ysgol ynghyd â Hanes i’r dosbarthiadau uchaf. Ar ôl blwyddyn yn Ysgol Uwchradd Arberth, cafodd swydd fel athro yn [[Ysgol y Preseli]], [[Crymych]]. Yma, roedd Eirwyn yn dysgu’r Gymraeg fel iaith gyntaf yn bennaf, ynghyd â Hanes drwy gyfrwng y Gymraeg i rai o’r dosbarthiadau uchaf. Buodd yn gyfrifol am Adran yr [[Urdd Gobaith Cymru|Urdd]] yn ystod ei gyfnod fel athro yno.
 
Ar ôl treulio pum mlynedd fel athro yn Ysgol y Preseli, aeth i ymuno â staff Llyfrgell Dyfed yn 1975. Cafodd ei benodi yn Drefnydd Diwylliant cyn i deitl y swydd cael ei newid yn ddiweddarach i Lyfrgellydd Gweithgareddau. Fel rhan o’r swydd hon, bu’n trefnu cwis llyfrau i oedolion ac ieuenctid Sir Benfro. Roedd y rhaglen waith yn cynnwys sefydlu a threfnu Grwpiau Trafod Llyfrau; paratoi cwis llyfrau i blant ysgol, ieuenctid ac oedolion; darparu cystadlaethau arlunio ac ysgrifennu ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd; trefnu Gŵyl y Llyfrgell ym mis Mawrth. Roedd rhaglen yr Ŵyl yn cynnwys darlithiau o bob math, cyfarfod awduron, Noson Lawen y Dysgwyr a chyflwyniadau cerddorol a dramatig.
 
Yn ystod ei amser fel Llyfrgellydd Gweithgareddau, cafodd ei ryddhau o’i ddyletswyddau am naw mis i ddilyn cwrs proffesiynol yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth. Un rhan o’r cwrs oedd cyfnod o brofiad gwaith mewn rhyw lyfrgell arall. Aeth i weithio yng Nghanolfan Llyfrgell Clwyd yn yr Wyddgrug am fis, lle cafodd y cyfle i gydweithio ag Einion Evans (y Prifardd yn ddiweddarach.) Cangen arall o waith Eirwyn fel Llyfrgellydd Gweithgareddau oedd mynd ati i recordio pobl yn hel atgofion ar dâp ac yna byddai’r sgyrsiau’n cael eu trosglwyddo i gasetiau wedyn a’u rhoi ar fenthyg gan y Llyfrgell. Bu Eirwyn, fel rhan o’i waith yn y Llyfrgell, yn gyfrifol am greu cynllun a oedd yn dwyn y teitl ‘Arlunydd y Mis’; cynllun a oedd yn gwahodd arlunwyr lleol, un ar gyfer pob mis o’r flwyddyn, i arddangos tua deunaw o beintiadau o’u gwaith yn adran fenthyca Llyfrgell Hwlffordd. Bu Eirwyn hefyd yn gyfrifol am drefnu arddangosfa o waith yr arlunydd [[Aneurin Jones]] o [[Aberteifi]] yn Llyfrgell Abergwaun ym mis Awst 1986. Treuliodd bymtheg mlynedd yn gweithio fel Llyfrgellydd Gweithgareddau yn Llyfrgell Hwlffordd cyn ymddeol yn 1990.