Eirwyn George: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 96:
* ''Meini Nadd a Mynyddoedd:'' Gomer, 1999. Dwy daith lenyddol a hanesyddol o gwmpas rhai o fannau mwyaf nodedig ardal y Preseli yn cynnwys meini coffa a cherrig chwedlonol a Christnogol o bob math.
* ''Estyn yr Haul'' (gol.): Cyhoeddiadau Barddas, 2000. Blodeugerdd o ryddiaith o waith awduron Sir Benfro yn ymestyn dros ganrif gyfan ynghyd â rhagymadrodd y golygydd ar ddatblygiad y traddodiad rhyddiaith yn y sir o adeg chwedlau’r ''Mabinogion'' hyd at drothwy’r ugeinfed ganrif.
* ''Gwŷr LlenLlên Sir Benfro yn yr Ugeinfed Ganrif:'' Gwasg Gwynedd, 2001. Cyfrol yn ymdrin â gweithiau llenyddol deunaw o awduron a aned yn Sir Benfro yn cynnwys barddoniaeth a rhyddiaith greadigol.
* ''Gorllewin Penfro:'' Gwasg Carreg Gwalch, 2002. Cyfrol yn ymdrin â hanes parthau gorllewinol Sir Benfro wedi ei rhannu yn dair adran: (1) O Gwmpas Tyddewi, (2) Abergwaun a’r Cyffiniau, (3) Y De-orllewin. Cyhoeddwyd yn y gyfres ‘Bröydd Cymru’ ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Thyddewi yn 2002.
* ''O Gwmpas Maenclochog Mewn Lluniau / Around Maenclochog In Photographs:'' Clychau Clochog, 2003. Casgliad o 420 o luniau hen a newydd yn bwrw golwg ar ardal Maenclochog a’r cyffiniau. Mae’r testun hwn yn ddwyieithog.