Statud Rhuddlan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Gweithredwyd '''Statud Rhuddlan''' neu '''Statud Cymru''' ar 3 Mawrth 1284 ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru — a sefydlwyd yn ffurfiol gan [[Llywelyn...'
 
Llinell 6:
 
== Creu siroedd newydd ==
Rhannodd Statud Rhuddlan y Dywysogaeth yn [[Siroedd Cymru cyn ad-drefnu 1974|siroedd]] newydd, a grewyd ar y patrwm sirol Seisnig. Rhanwyd [[Gwynedd Uwch Conwy]], calon Teyrnas Gwynedd, yn dair sir - [[Ynys Môn|Sir Fôn]], [[Sir Feirionnydd]], a [[Sir Gaernarfon]] - a chreuwyd [[Sir y Fflint]], yn [[Y Berfeddwlad]] ([[Gwynedd Is Conwy]]). Roedd y siroedd newydd hyn yn seiliedig i raddau helaeth ar yr hen [[cantrefi a chymydau Cymru|gantrefi a chymydau Cymreig]]; cyfunwyd cantrefi [[Arfon]], [[Arllechwedd]], [[Eifionydd]], a [[Llŷn]], a'r chwmwd y [[Creuddyn (Rhos)|Creuddyn]], i ffurfio Sir Gaernarfon, er enghraifft. Sefydlwyd swydd ''Justiciar'' Gogledd Cymru i reoli siroedd Môn, Caernarfon a Meirionnydd gyda thrysorlys taleithiol yn nhref [[Caernarfon]]. Yn yr un modd, sefydlwyd swydd ''justiciar'' Gorllewin Cymru yn [[Sir Aberteifi]] a [[Sir Gaerfyrddin]].<ref>''Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063-1415'', pennod 14.</ref> Ni sefydlwyd y siroedd eraill cyn 1536 a pharhaodd arglwyddiaethau'r Mers yn annibynnol ar Goron Lloegr tan hynny.
 
== Cyfraith ==