Ymgyrch Grym Cynghreiriol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Kosovo → Cosofo
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Y rheswm swyddogol dros fomio Iwgoslafia oedd [[Ymgyrch Pedol]]. Yn sgîl ymchwiliadau dilynol ac achosion llys gan [[y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer y cyn-Iwgoslafia]], cadarnhawyd fod lluoedd diogelwch Iwgoslafaidd yn gyfrifol am [[troseddau yn erbyn dynoliaeth|droseddau yn erbyn dynoliaeth]] a chamdriniaethau [[hawliau dynol]] yn erbyn poblogaeth sifil Cosofo, yn enwedig yn ystod ymgyrch fomio NATO.
 
Yr ail ymgyrch filwrol fawr yn hanes NATO oedd Ymgyrch Grym Cynghreiriol, yn dilyn [[Ymgyrch Grym Bwriadol]] ymyn [[Bosnia a Hercegovina|Mosnia a Hercegovina-Hertsegofina]] yn ystod [[Rhyfel Bosnia]] ym mis Medi 1995. Ni chafwyd gefnogaeth [[y Cenhedloedd Unedig]] cyn i luoedd y cynghrair ddechrau bomio.
 
Arweiniodd y bomio at giliad lluoedd Iwgoslafaidd o Gosofo, a sefydlu [[Cenhadaeth Gweinyddu Dros Dro y Cenhedloedd Unedig yng Nghosofo]] (UNMIK) i ddod â therfyn i [[Rhyfeloedd Iwgoslafia|Ryfeloedd Iwgoslafia]]'r 1990au. Beirniadwyd yr ymgyrch fomio, yn enwedig oherwydd y niferoedd sifil a laddwyd.