Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Carreg Llundain"

Ychwanegwyd 1 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
 
== Hanes a thraddodiad ==
Ni wyddys os ydyw'r stori hwnnwamdani yn wir neu beidio am fod hanes cynnar y garreg yn ddirgelwch, ond mae gan y garreg hanes a thraddodiad hir. Ers canrifoedd mae wedi cael ei ystyried yn ganolog i fodolaeth Llundain ei hun. Byddai pobl yn trafod busnes a thyngu llwon yno. Roedd datganiadau swyddogol yn cael eu cyhoeddi yno hefyd. Dywedir fod [[Jack Cade]], arweinydd gwrthryfel y werin yn erbyn [[Harri VI o Loegr]] yn 1450, wedi taro ei gleddyf ar y garreg fel symbol o sofraniaeth pan gyrhaeddodd ei luoedd y ddinas; ar ôl gwneud hynny, cyhoeddodd ei hun yn "Arglwydd y Ddinas".
 
Symudwyd y garreg o'i safle gwreiddiol yng nghanol Stryd Canon. Dywedir ei fod yn garreg fwy sylweddol yn y gorffennol. Cafodd ei gosod ym mur Eglwys St Swithin a goroesodd fomio'r eglwys honno yn yr Ail Ryfel Byd, heb niwed.