Sgwrs Nodyn:Hanes Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '==Delwedd addas== Diolch am ailwampio'r nodiadau, Rhys, ond rhaid i mi ddweud na fedraf gytuno o gwbl ag un newid yma, sef rhoi'r ddelwedd o'r "Fathodyn Brenh...'
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
==Delwedd addas==
Diolch am ailwampio'r nodiadau, Rhys, ond rhaid i mi ddweud na fedraf gytuno o gwbl ag un newid yma, sef rhoi'r ddelwedd o'r "Fathodyn Brenhinol" nawddoglyd yn lle'r Ddraig Goch. Mae hyn yn fathodyn gyda phwrpas gwleidyddol amlwg a roddwyd gan Frenhines/llywodraeth y DU i gael ei defnyddio gan Lywodraeth y Cynulliad. Yn fy marn i dydy o ddim yn cynrychioli [[Hanes Cymru]] ac yn wir baswn i'n deud fod nifer o Gymry gwladgarol yn ei gweld fel arwyddlun gwrthun a chwbl annerbyniol oherwydd y modd nawddoglyd ac israddol y mae'n dangos Cymru, yn enwedig gyda'r goron anferth, symbolau yr Alban, Lloegr ac '''''[[Iwerddon]]'''''(!!!) yn ei amgylchynu, ac arfbais y "Tywysog Cymru" Seisnig yn ei chanol. Hoffwn gynnig newid hyn a chael y Ddraig yn ôl; symbol Cymru ers y cychwyn cyntaf. Oes gan rywun arall farn am hyn? [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 16:53, 18 Mehefin 2009 (UTC)
:Cytuno. Mae'n symbol brenhinol yn hytrach na symbol o Gymru. [[Defnyddiwr:Rhion|Rhion]] 17:56, 18 Mehefin 2009 (UTC)
Nôl i'r dudalen "Hanes Cymru".