Edward Lhuyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Roedd '''Edward Lhuyd''' (hefyd '''Llwyd''' a '''Lloyd'''; 1660–30 Mehefin 1709) yn naturiaethwr, botanegwr, ieithydd, daearegydd a hynafiaethydd Cymreig.
Ganwyd Edward Lhuyd yn fab gordderch i Edward Lloyd o [[Llanforda|Lanforda]], ger [[Croesoswallt]], aelod o deulu bonheddig y Llwydiaid, a pherthynas bell iddo, Bridget Pryse o [[Glanffraid]], oedd yn perthyn i un o ganghennau teulu [[Gogerddan]]. Magwyd Lhuyd ym mhlwyf Lappington yn [[Sir
Teithiai Lhuyd ar hyd a lled yr [[Prydain|Ynysoedd Prydeinig]] yn ei waith. Aeth ar daith i [[Eryri]] ym [[1688]] er mwyn cofnodi planhigion lleol y fro ar gyfer ''Synopsis Methodica Stirpium Britannicorum'', llyfr gan y botanegwr [[John Ray]]. Yna, wedi 1697, cychwynnodd Llwyd ar daith o gwmpas pob sir yng Nghymru, yn ogystal â'r [[Yr Alban|Alban]], [[Iwerddon]], [[Cernyw]] a [[Llydaw]]. Argraffwyd ''Lithophylacii Britannici Ichnographia'', ei gatalog o [[ffosil|ffosiliaid]], a gasglwyd o amgylch ardal Rhydychen yn bennaf, ym [[1699]] gydag ychydig o gymorth ariannol gan [[Isaac Newton]]. Ym 1707 cyhoeddodd Lhuyd y gyfrol ''Glossography'', y gyfrol gyntaf o'r ''[[Archaeologia Britannica]]'' arfaethedig a'r unig un a welodd olau dydd, sy'n astudiaeth o iaith a diwylliant y gwledydd Celtaidd ar seiliau gwyddonol. Roedd y llyfr yn garreg filltir bwysig yn y meysydd hynny; man cychwyn yr astudiaeth fodern o'r [[ieithoedd Celtaidd]].
|