Ned Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 6:
Cafodd swydd fel darlithydd llenyddiaeth Saesneg ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth]] yn 1969. Sefydlodd a golygodd y cylchgrawn dylanwadol ''[[Planet]]''. Erbyn heddiw mae'n un gadeirydd Cwmni Dyddiol Cyf., y cwmni sy'n gobeithio lawnsio ''[[Y Byd]]''.<ref>[http://www.ybyd.com/corfforaethol.html ''Y Byd'']</ref>
 
Cafodd ysgrifeniadau Ned Thomas ddylanwad sylweddol ar yr ymgyrch iaith yn y 1970au a'r mudiad dros gael senedd i Gymru. Gwnaeth lawer i hyrwyddo twf dylanwad yr [[adain chaithchwith]] mewn [[cenedlaetholdeb Cymreig]], yn enwedig mewn perthynas â gwaith [[Cymdeithas yr Iaith]].
 
Ei gyfrol enwocaf, efallai, yw ''The Welsh Extremist'' (is-deitl: ''A Culture in Crisis''), sy'n dadansoddi a disgrifio sefyllfa ieithyddol, gwleidyddol, a chymdeithasol Cymru mewn cyd-destun yr angen i warchod yr iaith a'r [[Fro Gymraeg]] a chael hunanlywodraeth i Gymru. Mae'r llyfr yn bwysig hefyd fel cyflwyniad o werthoedd Cymraeg a Chymreig i bobl di-Gymraeg, yng Nghymru a thros Glawdd Offa, a hynny ar adeg pan gollfernid cenedlaetholdeb Cymru a'r Alban yn hallt yn y wasg Seisnig/Prydeinig.