Pen-y-bryn, Abergwyngregyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Delweddau: cywirio cat |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Garth Celyn 1.jpg|bawd|dde|250px|Garth Celyn o hirbell.]]
Safle llys [[Teyrnas Gwynedd|Tywysogion Gwynedd]] yn [[Abergwyngregyn]] oedd '''Garth Celyn'''. Ni cheir cytundeb am ei union safle.
Yn wreiddiol, [[Aberffraw]] ym [[Môn]] oedd prif lys brenhinllin Gwynedd, ond Garth Celyn, prif lys [[cantref]] [[Arllechwedd]], oedd y prif lys yn ystod teyrnasiad [[Llywelyn Fawr]], a pharhaodd yn brif lys yng nghyfnod ei olynwyr [[Dafydd ap Llywelyn]] a [[Llywelyn ap Gruffudd]]. Mewn effaith, er bod y tywysogion yn dal i fynd "ar gylch" ar adegau o'r flwyddyn i gynnal y llys brenhinol yn lleol, Garth Celyn yn Aber oedd safle llys [[Tywysogaeth Cymru]] annibynnol yn y 13eg ganrif.
Yma y bu farw [[Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)|Y Dywysoges Siwan]], gwraig Llywelyn Fawr
Yn ddiweddar, haerwyd mai safle'r llys yw lle saif Pen y Bryn, plasdy a adeiladwyd yn wreiddiol gan Rhys Thomas a'i wraig Jane, a gafodd y tiroedd hyn yn 1553. Dywedir iddynt adeiladu'r plasdy ar adfeilion y llys. Saif Pen y Bryn ar godiad tir ychydig i'r gorllewin o ganol pentref Abergwyngregyn, ar ochr arall yr afon, ar lethr wrth droed bryn coediog (SH653726).
==Delweddau==
|