Disgwyliad oes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '400px|right Mewn demograffeg, '''disgwyliad bywyd''' yw'r nifer o flynyddoedd ychwanegol y gall unigolyn mewn g...'
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mewn [[demograffeg]], '''disgwyliad bywyd''' yw'r nifer o flynyddoedd ychwanegol y gall unigolyn mewn grŵp arbennig, e.e. yn ôl oedran a rhyw, ddisgwyl byw, o ran tebygolrwydd ystadegol.
 
Dibynna'r ffigwr am ddisgwyliad bywyd ar y modd y dewisir y grŵp i'w fesur. Mewn rhai gwledydd tlawd, mae cyfran marwolaethau ymysg babanod yn uchel iawn, ac mae hyn yn gostwng y disgwyliad bywyd i'r holl boblogaeth yn sylweddol. Oherwydd hyn, weithiau defnyddir ffigwr gwahanol, er enghraifft disgwyliad bywyd y bobologaetbobologaeth dros ddeg oed.
 
Yn ystod y canrifoedd diwethaf, mae disgwyliad bywyd wedi cynyddu'n sylweddol, i raddau helaeth oherwydd gwelliannau mewn iechyd cyhoeddus a thriniaeth feddygol. Gwelwyd yr effeithiau hyn fwyaf yn y gwledydd cyfoethocaf. Yn yr [[Unol Daleithiau]] yn [[1901]] roedd disgwyliad bywyd yn 49, ond erbyn diwedd y ganrif roedd yn 77, gwelliant o fwy na 50%. Yn [[India]] a [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]], roedd disgwyliad bywyd tua 40 yng nghanol yr [[20fed ganrif]], ond tua 63 erbyn diwedd y ganrif.