Erging: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Archenfield: Y Gymraeg
manion
Llinell 1:
Teyrnas Gymreig o'r cyfnod ôl-Rufeinig a'r [[Yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru|Oesoedd Canol Cynnar]] a [[cantref|chantref]] canoloesol oedd '''Erging''' (ceir y ffurf hynafiaethol '''Ergyng''' mewn llyfrau Saesneg). Roedd ganddi berthynas agos â hanes [[Teyrnas Gwent]]. Yn ddiweddarach cafodd tiriogaeth yr hen deyrnas ei galw yn ''Archenfield'' gan y Saeson.
 
==Hanes cynnar==
Gorweddai'r deyrnas yn bennaf yn yr hyn sydd erbyn heddiw yn orllewin [[Swydd Henffordd]] yn [[Lloegr]]. Canol y deyrnas oedd yr ardal rhwng afonydd [[afon Mynwy|Mynwy]] a [[afon Gwy|Gwy]] (Swydd Henffordd), ond ymestynnai hefyd i'r [[Sir Fynwy]] fodern ac i'r dwyrain o afon Gwy lle ceir safle tref [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]] ''Ariconium'' (yn [[Weston under Penyard]] heddiw); credir fod yr enw 'Erging' yn deillio o enw'r dref honno a oedd, mae'n bosibl, yn brifddinas y deyrnas fechan.
 
Llinell 7:
 
Roedd cefnder Dyfrig, [[Gwrgan Fawr]], yn un o frenhinoedd mwyaf grymus Erging a reolai ardaloedd Gwent a Morgannwg hyd at lannau [[afon Nedd]]. Ymddengys mai ei ŵyr [[Athrwys ap Meurig]] oedd teyrn olaf yr Erging annibynnol a syrthiodd yn ôl dan reolaeth teyrnas Gwent ar ôl ei farw yn y flwyddyn [[655]].
 
Daeth yr hen deyrnas yn [[cantref|gantref]] yn yr Oesoedd Canol.
 
==Archenfield==
Daeth yr hen deyrnas yn [[cantref|gantref]] yn yr Oesoedd Canol. Rywbryd cyn i'r [[Normaniaid]] ddechrau ar eu goresgyniad, cipiwyd Erging gan y Saeson. Daethant i'w galw yn ''Archenfield'', ond roedd ei statws yn bur niwlog: hyd at y [[Deddfau Uno]] yn [[1536]] roedd anscicrwydd cyfreithiol am ei statws gweinyddol fel rhan o Gymru neu ran o Loegr. Daeth yn rhan o [[Esgobaeth Henffordd]] pan fu [[Urban, Esgob Llandaf|Urban]] (1107-33) yn [[esgob Llandaf]]. Arosodd yr ardal yn ffyddlon i'r [[Eglwys Gatholig]] am ddegawdau yn wyneb y [[Diwygiad Protestannaidd]].
 
==Goroesiad y Gymraeg==
Arosodd yr iaith [[Gymraeg]] yn fyw yn yr ardal am ganrifoedd. Mae tystiolaeth arolwg ''[[Llyfr Domesday]]'' (1086) yn awgrymu cymdeithas gwbl Gymraeg, er i'r ardal fod ym meddiant y Saeson ers canrif neu ddwy. Ceir rhestr o brif drigolion ''Irchingeld'' (''Archenfield''=Erging) yn y flwyddyn [[1303]] mewn un o ysgroliau memoranda'r llys Seisnig sy'n awgrymu fod mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Gymry: allan o tua hanner cant o enwau mae tua 45 yn enwau Cymraeg, e.e. Gruffudd ap Dafydd o Dreredenog, Nest o Bengelli, a.y.y.b.<ref>Natalie Fryde (gol.), ''List of Welsh entries in the Memoranda Rolls 1282-1343'' (Caerdydd, 1974), tt. 22-23.</ref> Parhaodd yr iaith i fod yn iaith gymunedol mewn rhannau o Erging tan o gwmpas dechrau'r 18fed ganrif a chofnodir siaradwyr Cymraeg lleol mor ddiweddar â chanol y 19eg ganrif.<ref>David Williams, ''A History of Modern Wales'' (Llundain, 1950; argraffiad newydd, 1982), tud. 11.</ref>
 
Llinell 16 ⟶ 19:
<references/>
 
==Ffynonellau==
*[[Wendy Davies]], ''The Llandaff Charters'' (Caerdydd, 1979)
*Wendy Davies, ''Wales in the Early Middle Ages'' (Caerlyr, 1982)
*Natalie Fryde (gol.), ''List of Welsh entries in the Memoranda Rolls 1282-1343'' (Caerdydd, 1974)
*[[Gilbert Hunter Doble|G. H. Doble]], ''Lives of the Welsh Saints'' (Caerdydd, arg. newydd, 1971)
*John Morris, ''The Age of Arthur'' (1973)
*Raymond Perry, ''Anglo-Saxon Herefordshire'' (2002)
*A. L. F. Rivet & Colin Smith, ''The Place-Names of Roman Britain'' (1979)
*David Williams, ''A History of Modern Wales'' (Llundain, 1950; argraffiad newydd, 1982)
 
{{Teyrnasoedd Cymru}}
 
[[Categori:Teyrnasoedd Cymru]]
[[Categori:Teyrnas Gwent]]
[[Categori:Cantrefi Cymru]]
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Categori:Teyrnasoedd Cymru]]
[[Categori:Teyrnas Gwent]]
[[Category:Swydd Henffordd]]