Tab Hunter: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
}}
Actor, cyflwynydd teledu, canwr pop, cynhyrchydd ac awdur Americanaidd oedd '''Tab Hunter''' (ganwyd '''Arthur Andrew Kelm'''; [[11 Gorffennaf]] [[1931]] – [[8 Gorffennaf]] [[2018]]). Serennodd mewn mwy na 40 o ffilmiau a roedd yn seren Hollywood adnabyddus ac eilun yn y 1950au a'r 1960au, yn adnabyddus am ei ddelwedd syrffiwr penfelen Califforniaidd. Ar ei anterth roedd ganddo ei sioe deledu ''The Tab Hunter Show'' a sengl llwyddiannus Young Love.
 
==Bywyd personol==
[[File:TabHunterApr10.jpg|thumb|Tab Hunter yn 2010]]
Cyhoeddwyd hunanfywgraffiad Hunter, ''Tab Hunter Confidential: The Making of a Movie Star'' yn 2005, wedi ei gyd-ysgrifennu gyda [[Eddie Muller]], ac aeth i restr y New York Times o lyfrau oedd yn gwerthu orau, fel gwnaeth y rhifyn clawr meddal yn 2007. Enwebwyd y llyfr am sawl gwobr ysgrifennu. Ail-ymddangosodd yn rhestr y New York Times am y trydydd tro ar 28 Mehefin 2015 yn ystod rhyddhau y ffilm a seiliwyd ar y llyfr.
 
Yn y llyfr, mae'r actor yn cydnabod ei fod yn hoyw, gan gadarnhau sïon oedd wedi cychwyn pan roedd ei yrfa ar ei anterth. Yn ôl William L. Hamilton o ''The New York Times'', roedd adroddiadau manwl am garwriaethau honedig Hunter gyda'i ffrindiau agos Debbie Reynolds a Natalie Wood wedi eu creu yn llwyr gan adrannau cyhoeddusrwydd y stiwdios ffilm. Wrth i Wood a Hunter ddechrau carwriaeth enwog ond gwbl ffug, ac yn hyrwyddo ei heterorywioldeb ymddangosol wrth hyrwyddio eu ffilmiau, roedd gan bobl ar y tu fewn bennawd eu hunain ar gyfer yr eitem: "Natalie Wood and Tab Wouldn't."<ref name="See William L 2005">See William L. Hamilton, "Did Success Spoil Tab Hunter?," ''[[New York Times]]'' (September 18, 2005)</ref>
 
Daeth Hunter yn ddigon agos at [[Etchika Choureau]], ei gyd-seren yn ''Lafayette Escadrille'', a [[Joan Perry]], gweddw [[Harry Cohn]], i ystyried priodi, ond nid oedd yn credu y gallai gynnal priodas, a parhaodd yn ffrind platonaidd gyda'r ddau.
 
Yn ystod cyfnod stiwdio Hollywood, dywedodd Hunter, "&nbsp;[life] was difficult for me, because I was living two lives at that time. A private life of my own, which I never discussed, never talked about to anyone. And then my Hollywood life, which was just trying to learn my craft and succeed...". Pwysleisiodd nad oedd y gair 'gay' yn bodoli bryd hynny ac os oedd unrhywun yn ei gwestiynau ar y mater, byddai'n mynd yn wallgo. Roedd yn gwadu ei rywioldeb yn llwyr a nid oedd yn gyffyrddus yng nghymdeithas Hollywood, heblaw am y broses waith.<ref>See Tim Parks, "The many lives of Tab Hunter", ''Gay and Lesbian Times'' (December 15, 2005)</ref> Dywedodd yr actor fod gymaint yn cael ei ysgrifennu yn y wasg am ei rywioldeb, a'u bod yn reit greulon. Roedd gwylwyr ffilmiau eisiau cadw'r ddelwedd o'r bachgen drws nesaf, cowbois a chariadon golygus oedd e'n bortreadu.<ref name="See William L 2005"/>
 
[[File:Juke Box Jury May 1957.jpg|thumb|Tab Hunter (dde) gyda [[Anthony Perkins]] a Peter Potter ar y sioe deledu ''Juke Box Jury'' (1957)]]
Cafodd Hunter berthynas hirdymor gyda'r actor [[Anthony Perkins]] a'r pencampwr sgelfrio ffifwr Ronnie Robertson, cyn setlo gyda ei bartner am dros 35 mlynedd, y cynhyrchydd ffilm Allan Glaser.<ref>{{cite news|url=https://www.washingtonpost.com/wp-dyn/content/article/2005/10/06/AR2005100601518_pf.html|title="The Celluloid Closet"|date=October 9, 2005|publisher=washingtonpost.com|accessdate=January 7, 2009|first=Louis|last=Bayard}}</ref> Tra'n gwasanaethau yn llynges yr U.D.A. yn ystod Rhyfel Fietman, lladdwyd ei frawd Walter ar 28 Hydref 1965.
 
Magwyd Hunter yn ffydd Gatholig ei fam a fe barhaodd i ymarfer ei grefydd am rhan fwyaf o'i fywyd.<ref>{{Cite news|url=https://www.slantmagazine.com/features/article/interview-tab-hunter|title=Interview: Tab Hunter Gets Confidential {{!}} Feature {{!}} Slant Magazine|work=Slant Magazine|access-date=2018-03-14|language=en-US}}</ref><ref>{{Cite news|url=http://www.courant.com/java/hc-fillo-tab-hunter-1014-20151013-column.html|title=Hollywood's All-American Boy Tab Hunter Brings His Documentary To Warner Theater|last=Fillo|first=MaryEllen|work=courant.com|access-date=2018-03-14|language=en-US}}</ref><ref>{{Cite news|url=http://www.indiewire.com/2015/10/tab-hunter-out-of-the-hollywood-closet-and-in-his-own-words-176331|title=Tab Hunter, Out of the Hollywood Closet and in His Own Words|last=Lattanzio|first=Ryan|date=2015-10-12|work=IndieWire|access-date=2018-03-14|language=en-US}}</ref> Bu farw ei fam yn 92 oed a fe'i claddwyd ym Mynwent Santa Barbara.
 
Derbyniodd Hunter seren ar yr Hollywood Walk of Fame am ei gyfraniad i'r diwydiant cerddoriaeth.<ref>{{cite web|url=http://projects.latimes.com/hollywood/star-walk/tab-hunter|title=Tab Hunter|website=latimes.com|access-date=March 8, 2016}}</ref>
 
Yn 2007, cafodd Seren Golden Palm ei neilltuo iddo ar y 'Palm Springs Walk of Stars'.<ref>{{cite web|url=http://www.palmspringswalkofstars.com/web-storage/Stars/Stars%20dedicated%20by%20date.pdf|format=PDF|title=Palm Springs Walk of Stars by date dedicated|publisher=Palmspringswalkofstars.com|accessdate=August 17, 2015|deadurl=yes|archiveurl=https://web.archive.org/web/20121013165655/http://www.palmspringswalkofstars.com/web-storage/Stars/Stars%20dedicated%20by%20date.pdf|archivedate=October 13, 2012}}</ref>
 
===Marwolaeth===
Bu farw Hunter o gymlethdodau thrombosis gwythïen ddofn (DVT) a achosodd ataliad ar y galon ar 8 Gorffennaf 2018, tridiau cyn ei ben-blwydd yn 87 oed.<ref>{{cite web|url=https://www.independent.co.uk/arts-entertainment/films/news/tab-hunter-dead-hollywood-actor-films-gay-anthony-perkins-allan-glaser-biopic-a8438286.html|title=Veteran Hollywood actor Tab Hunter dies aged 86|website=Independent.co.uk|accessdate=9 Gorffennaf 2018}}</ref> According to his partner Glaser, Hunter's death was "sudden and unexpected".<ref>https://www.nytimes.com/aponline/2018/07/09/arts/ap-us-obit-tab-hunter.html</ref>
 
== Disgyddiaeth a siartiau ==
Llinell 379 ⟶ 401:
[[Categori:Cantorion Americanaidd]]
[[Categori:Actorion ffilm Americanaidd]]
[[Categori:Actorion LHDT]]