Macrinus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: mk:Макрин
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: th:จักรพรรดิมาครินัส; cosmetic changes
Llinell 1:
[[Delwedd:Aureus Macrinus-RIC 0079.jpg|thumb|250px|[[Aureus]] gyda delw Macrinus. Mae'r symbolau yn dathlu ''liberalitas'' ("haelioni") Macrinus a'i fab.]]
 
'''Marcus Opellius Macrinus''' (164–218164–218) oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o 217 hyd ei farwolaeth.
 
Ganed Macrinus yn [[Iol Caesarea]] yn nhalaith [[Mauretania (talaith)|Mauretania]] [[Mauretania Caesariensis|Caesariensis]]. Yr oedd o deulu bonheddig ond yn ôl pob tebyg heb fod yn gyfoethog. Pan oedd yn ŵr ifanc bu Macrinus yn gweithio fel negesydd, fel heliwr proffesiynol a hyd yn oed fel gladiator. Aeth i Rufain i weithio fel cyfreithiwr, a phenododd Plautanius, pennaeth [[Gard y Praetoriwm]] ef fel ei asesydd cyfreithiol personol. Wedi i Plautanius gael ei lofruddio yn [[205]], bu Macrinus yn gweinyddu eiddo'r ymerawdwr, ac yn [[212]] penodwyd ef yn bennaeth Gard y Praetoriwm. Yn y flwyddyn [[217]] yr oedd yn un o arweinwyr y cynllwyn yn erbyn yr ymerawdwr [[Caracalla]], ac wedi llofruddiaeth Caracalla cyhoeddwyd ef yn ymerawdwr gan ei filwyr.
 
Addawodd Macrinus deyrnasu yn ysbryd [[Marcus Aurelius]] yn hytrach na Caracalla. Ei brif broblem oedd y rhyfel yn erbyn y [[Parthia|Parthiaid]]id oedd wedi ei gychwyn yn nheyrnasiad Caracalla. Yn dilyn brwydr gyfartal yn Nisibis, cytunodd yr ymerawdwr i roi diwedd ar yr ymladd trwy dalu 200,000,000 [[sesterce]] i'r Parthiaid a gadael [[Armenia]] iddynt. Ariannwyd y taliadau hyn trwy leihau cyflog y milwyr, a throes hyn y fyddin yn ei erbyn. Aeth pethau'n waeth pan ymddangosodd Varius Avitus ([[Heliogabalus]]) yn honni bod yn etifedd i Caracalla. Ar fore'r 16 Mai [[218]] cyhoeddodd y llengoedd y bachgen 14 oed hwn yn ymerawdwr. Ar yr 8 Mehefin [[218]] bu brwydr rhwng milwyr Macrinus a milwyr Heliogabalus, a gorchfygwyd Macrinus. Bu raid i Macrinus ffoi, ond cafodd ei adnabod yn [[Calcedonia]], yn disgwyl llong i groesi'r [[Bosphorus]], a daliwyd ef. Dienyddiwyd ef yn ystod Mehefin neu Gorffennaf [[218]] yn [[Archelais]]. Dilynwyd ef fel ymerawdwr gan [[Heliogabalus]].
 
{| border=2 align="center" cellpadding=5
|-
|width="30%" align="center"|'''O'i flaen :<br />'''[[Caracalla]]
|width="40%" align="center"|'''[[Ymerodraeth Rufeinig|Ymerodron Rhufain]]<br />Macrinus'''
|width="30%" align="center"|'''Olynydd :<br />'''[[Heliogabalus]]
|}
 
Llinell 51:
[[sv:Macrinus]]
[[sw:Kaizari Macrinus]]
[[th:จักรพรรดิมาครินัส]]
[[tl:Macrinus]]
[[tr:Macrinus]]