Dafydd (brenin): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ceir ei hanes yn nifer o lyfrau'r Hen Destament: [[I a II Samuel|I Samuel a II Samuel]], [[Llyfr Cronicl|Cronicl]] ac [[Llyfr y Brenhinoedd|I Brenhinoedd]]. Ef oedd y mab ieuengaf mewn teulu mawr. Daeth i sylw trwy ladd y cawr [[Goliath]] pan oedd yr Israeliaid yn ymladd yn erbyn y [[Ffilistiaid]]. Rhoddwyd [[Michal]], merch [[Saul]], brenin cyntaf Israel, yn wraig iddo. Yn ddiweddarach, aeth Saul yn genfigennus o'i lwyddiant milwrol yn erbyn y Ffilistiaid, a bu raid iddo ffoi.
 
Daeth yn frenin pan laddwyd Saul a'i fab [[Jonathan]], yn ymladd yn erbyn y Ffilistiaid. Am y saith mlynedd cyntaf, teyrnsai o [[Hebron]], ond yna gwnaeth [[Jeriwsalem]] yn brifddinas iddo, wedi iddo gipio'r ddinas oddi wrth y [[Jebiwsiaid]]. Bu ganddo nifer o wragedd, a chafodd nifer o feibion ganddynt hwy a chan ordderchwageddordderchwragedd, yn eu plith [[Solomon]], a'i olynodd ar yr orsedd, oedd yn fab i [[Bathsheba]], gweddw [[Urias]].
 
Yn y traddodiad Cristnogol, roedd Dafydd yn gyndad i [[Iesu Grist]], ac mae [[Islam]] yn ei ystyried fel proffwyd. Yn draddodiadol, dywedir mai ef oedd awdur y [[Salmau]]. Mae wedi bod yn destun poblogaidd i arlunwyr a cherflunwyr ar hyd y canrifoedd; yr enwocaf o'r gweithiau hyn yw ''[[Dafydd (Michelangelo)|Dafydd]]'' gan [[Michelangelo]].