Cynhadledd Aberdyfi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cynhaliwyd '''Cynhadledd Aberdyfi''' wrth aber afon Dyfi yn 1216. Dyma'r gynhadledd a welodd arweinwyr y Cymry yn cydnabod Llywelyn Fawr yn [[Tywy...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd Cynhadledd Aberdyfi yn coroni ymgyrchoedd llwyddianus Llywelyn yn y de yn 1215. Arweiniodd Llywelyn fyddin fawr oedd yn cynnwys tywysogion [[teyrnas Deheubarth|Deheubarth]] a chanolbarth Cymru.
 
Mae union leoliad y gynhadledd yn anhysbys, ond gellid tybio mae rhywle rhwng [[Pennal]] a [[Machynlleth]] y'i cynhaliwyd yn hytrach nag ar safle tref [[Aberdyfi]] ei hun. Dyma'r man lle cyfarfuroedd ffiniau Gwynedd, Powys., a Deheubarth yn cwrdd yn yr Oesoedd Canol a diau fod yr atgof am gynhadledd debyg gan y brenin [[Maelgwn Gwynedd]] ar ddechrau'r 6ed ganrif yn rheswm arall dros ei chynnal yno.
 
Cadarnhaodd y gynhadledd awdurdod Llywelyn Fawr fel arweinwyr y tywysogion Cymreig. Talodd y tywysogion hynny wrogaeth ffiwdal iddo. Rhannodd Llywelyn diroedd y de rhwng ei ddeiliaid o Ddeheubarth gan ddod i ben blynydoedd o ymrafael. Cafodd [[Maelgwn ap Rhys]] gantrefi [[Gwarthaf]] (gyda [[Caerfyrddin|Chaerfyrddin]]), [[Cemais (cantref yn Nyfed)|Cemais]], [[Emlyn (cantref)|Emlyn]], [[Mallaen]] a [[Hirfryn]] yn [[Ystrad Tywi]] a chymydau [[Gwynionydd]] a [[Mabwnion]] yng Ngheredigion. Cafodd [[Rhys Gryg]] y [[Cantref Mawr]] a'r [[Cantref Bychan]] (heb Mallaen a Hirfryn), [[Cydweli (cantref)|Cydweli]] a [[Carnwyllion|Charnwyllion]]. Rhoddwyd canolbarth a gogledd [[teyrnas Ceredigion|Ceredigion]] i feibion [[Gruffudd ap Rhys]], yn cynnwys [[castell Aberteifi]]. Ni chymerodd Llywelyn Fawr ddim iddo'i hun, gan fodloni ar dderbyn gwrogaeth y tywysogion ac arglwyddi.