Cynhadledd Aberdyfi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
Mae union leoliad y gynhadledd yn anhysbys, ond gellid tybio mae rhywle rhwng [[Pennal]] a [[Machynlleth]] y'i cynhaliwyd yn hytrach nag ar safle tref [[Aberdyfi]] ei hun. Dyma'r man lle roedd ffiniau Gwynedd, Powys, a Deheubarth yn cwrdd yn yr Oesoedd Canol a diau fod yr atgof am gynhadledd debyg gan y brenin [[Maelgwn Gwynedd]] ar ddechrau'r 6ed ganrif yn rheswm arall dros ei chynnal yno.
 
Cadarnhaodd y gynhadledd awdurdod Llywelyn Fawr fel arweinwyrarweinydd y tywysogion Cymreig. Talodd y tywysogion hynny wrogaeth ffiwdal iddo. Rhannodd Llywelyn diroedd y de rhwng ei ddeiliaid o Ddeheubarth gan ddod i ben blynydoedd o ymrafael rhwng disgynyddion yr [[Arglwydd Rhys]]. Cafodd [[Maelgwn ap Rhys]] gantrefi [[Gwarthaf]] (gyda [[Caerfyrddin|Chaerfyrddin]]), [[Cemais (cantref yn Nyfed)|Cemais]], [[Emlyn (cantref)|Emlyn]], [[Mallaen]] a [[Hirfryn]] yn [[Ystrad Tywi]] a chymydau [[Gwynionydd]] a [[Mabwnion]] yng Ngheredigion. Cafodd [[Rhys Gryg]] y [[Cantref Mawr]] a'r [[Cantref Bychan]] (heb Mallaen a Hirfryn), [[Cydweli (cantref)|Cydweli]] a [[Carnwyllion|Charnwyllion]]. Rhoddwyd canolbarth a gogledd [[teyrnas Ceredigion|Ceredigion]] i feibion [[Gruffudd ap Rhys]], sef Rhys Ieuanc ac Owain ap Gruffudd, yn cynnwys [[castell Aberteifi]]. Ni chymerodd Llywelyn Fawr ddim iddo'i hun, gan fodloni ar dderbyn gwrogaeth y tywysogion ac arglwyddi.<ref>A. H. Williams, ''An Introduction to the History of Wales'', cyfrol 2, tud. 71.</ref>
 
Cafodd y tir ei rannu rhwng disgynyddion yr Arglwydd Rhys yn union â [[Cyfraith Hywel|Chyfraith Hywel]]. Rhannodd yr hawlwr ieuengaf y tir ond rhoddwyd y dewis cyntaf ar y rhaniadau i'r hawlwr hynaf.<ref>R. R. Davies, ''Conquest, Co-existence and Change'' (Rhydychen, 1991), tud. 228.</ref>