Elidir Lydanwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Pennaeth o'r Hen Ogledd oedd '''Elidir Lydanwyn''' (fl. 6ed ganrif). Yn ôl traddodiad, roedd Elidir yn un o ddisgynyddion y Brenin Coel Hen ac yn dad...' |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Pennaeth o'r [[Hen Ogledd]] oedd '''Elidir Lydanwyn''' (fl. 6ed ganrif). Yn ôl traddodiad, roedd Elidir yn un o ddisgynyddion y Brenin [[Coel Hen]] ac yn dad i [[Llywarch Hen|Lywarch Hen]]. Fe'i cysylltir â theyrnas [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]] ac mae'n bosibl y bu'n frenin ar y deyrnas honno am gyfnod.
Yn yr achau traddodiadol a geir yn y testun Cymraeg Canol [[Bonedd Gwŷr y Gogledd]], ceir llinach Llywarch Hen:
Llinell 8:
Yn ôl y testun ''De Situ [[Brycheiniog|Brecheiniauc]]'', priododd Elidir â Gwawr ferch [[Brychan Brycheiniog]], a chafwyd Llywarch Hen o'r briodas.
Yn ôl y traddodiad a geir yn nhestunau fersiwn Gwynedd o [[Cyfraith Hywel|Gyfraith Hywel]], yr oedd Elidyr Lydanwyn yn frenin [[Rheged]] ac yn briod â chwaer [[Rhun ap Maelgwn Gwynedd]]. Hawliodd Elidir orsedd [[teyrnas Gwynedd]], ond pan ymwelodd a'r deyrnas lladdwyd ef gan wŷr [[Arfon]] yn Aber Meweddus, ger [[Clynnog Fawr|Clynnog]]. I ddial ei farwolaeth, ymosodwyd ar Wynedd gan ei ddau gefnder, [[Rhydderch Hael]] o [[Ystrad Clud]] a [[Clydno Eiddin]]. Dywedir i'w byddin hwy ddiffeithio Arfon, ac i ddial am hyn arweiniodd Rhun fyddin i'r Hen Ogledd cyn belled ag [[Afon Forth]].
Yn y casgliad o draddodiadau Cymreig a Brythonig [[Trioedd Ynys Prydain]], cofnodir Llywarch Hen mab Elidir Lydanwyn yn un o 'Dri Lleddf Unben [[Ynys Prydain]]', gyda [[Manawydan]] a [[Gwgon Gwron|Gwgon Gwron mab Peredur]].
|