Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Clydno Eidyn"

Ychwanegwyd 48 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
manion, nodyn
(Tudalen newydd: Tywysog neu bendefig o'r Hen Ogledd oedd '''Clydno Eidyn'''. Yn rhai o'r achau, disgrifir ef fel mab Cynfelyn ap Dyfnwal Hen, tra yn y testun achyddol [[Bonedd Gwŷr y Gogled...)
 
(manion, nodyn)
Tywysog neu bendefig o'r [[Hen Ogledd]] oedd '''Clydno Eidyn''' (fl. 6ed ganrif). Yn rhai o'r achau, disgrifir ef fel mab [[Cynfelyn]] ap [[Dyfnwal Hen]], tra yn y testun achyddol [[Bonedd Gwŷr y Gogledd]] disgrifir ef fel mab i Cynwyd Cynwydion. Awgryma ei enw y gallai fod yn arglwydd [[Caeredin|Din Eidyn]], ac efallai yn rhagflaenydd [[Mynyddog Mwynfawr]].
 
Roedd ganddo fab o'r enw [[Cynon ap Clydno Eidyn]], ac yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'' crybwyllir merch iddo o'r enw Eurneid.
 
Yn ''[[Llyfr Du'r Waun]]'', dywedir i [[Elidir Mwynfawr]] gael ei ladd yn "Aber Meuhedud" yn [[Arfon]], ac i nifer o Wŷr y Gogledd, yn cynnwys Clydno Eidyn, [[Nudd Hael]], [[Mordaf Hael]] a [[Rhydderch Hael]] arwain byddin i Arfon i geisio dial, ond iddynt gael eu gorchfygu gan [[Rhun ap Maelgwn Gwynedd]].
 
==Llyfryddiaeth==
 
* Peter C. Bartrum (1993) ''A Welsh classical dictionary'' (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN: 0-907158-73-0
 
{{Hen Ogledd}}
 
[[Categori:Yr Hen Ogledd]]