Wythnos Yng Nghymru Fydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Symlhau brawddeg llawer rhy gymhleth
Llinell 2:
 
==Y Plot==
Y mae'r arwr, Ifan Powell (yn yr 1950au) yn cytuno i gymerydgymryd rhan mewn arbrawf gwyddonol mewn [[teithio drwy amser]] ac y mae'n glanio yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] yn y flwyddyn 2033. Y mae'n aros yno am 5 diwrnodniwrnod ac y mae'n aros gyda theulu sydd yn mynd ag ef ar daith o gwmpas Cymru. Yno y mae'n canfod fod [[Cymru]] wedi ennill [[hunan-lywodraeth]] ac yn llewyrchus yn economaidd ac yn heddychlon yn gymdeithasol ac y mae'r iaith [[Gymraeg]] yn ffynnu gyda phawb yn gwbl ddwyieithog. Y mae'n syrthio mewn cariad gyda merch y teulu lle mae'n aros ac wedi iddo ddychwelyd i Gymru'r 1950au mae ei hiraeth amdani'n peri iddo fynnu mynd yn ôl i 2033. Er i'r gwyddonydd sydd yn gwneud yr arbrawf ei gynghori yn erbyn hyn, y mae'n cytuno wedi i Ifan erfyn arno.
 
Fodd bynnag, pan y mae'n dychwelyd, y mae'n cael ei hun mewn Cymru cwbl wahanol, er mai'r un yw'r lleoliad a'r dyddiad ag o'r blaen (h.y. Caerdydd yn 2033). Y mae'r iaith Gymraeg wedi marw a phob arlliw o hunaniaeth Gymreig wedi diflannu, yn wir y mae hyd yn oed enw'r wlad wedi ei newid i "[[Lloegr]] Orllewinol". Y mae'r gymdeithas hefyd yn ansefydlog a llawn helynt. Dim ond am ddeuddydd y mae Ifan yn aros yma - y mae hynny yn fwy na digon iddo.
 
Wedi i Ifan ddychwelyd am yr eildro i'r presennol y mae'r gwyddonydd yn egluro iddo fod y ddwy Gymru y bu Ifan yn ymweld a hwynt yn bosibiliadau ar gyfer y dyfodol a'i fod i fyny i bobl Cymru pa un a gaiff ei wireddu. Yn sgil hyn y mae Ifan yn troi yn genedlaetholwr Cymreig (yr oedd gynt yn gwrthwynebu [[cenedlaetholdeb Cymreig]] gan ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau mai'r Gymru y bu ynddi hi yn gyntaf fydd yn dod yn wir.
 
== Beirniadaeth ==