Brwydr Llandeilo Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion |
|||
Llinell 1:
Ymladdwyd '''Brwydr Llandeilo Fawr''' ar 16 Mehefin 1282 yng nghyffiniau [[Llandeilo Fawr]] ([[Llandeilo]], [[Sir Gaerfyrddin]]) rhwng byddin o wŷr [[Teyrnas Deheubarth|Deheubarth]] a oedd yn ffyddlon i [[Llywelyn ap Gruffudd|Lywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]] a byddin o [[Teyrnas Lloegr|Saeson]]. Roedd yn rhan o Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru 1282-83.
== Cefndir ==
Pan ymosododd y brenin [[Edward I o Loegr]] ar y [[Tywysogaeth Cymru|Gymru annibynnol]] yn haf 1282, rhannodd ei luoedd yn dair byddin fawr gyda'r bwriad o amgylchynu byddin Llywelyn a'i dinistrio. Ymosododd dwy o'r
== Y frwydr ==
Erbyn dechrau Mehefin 1282, roedd Gilbert de Clare wedi arwain ei fyddin i [[Ystrad Tywi]] a sefydlu garsiynau yng nghestyll [[Caerfyrddin]] a [[Castell Dinefwr|Dinefwr]]. Gyda tua 1600 o filwyr traed a
Ond ar yr 16 o Fehefin, wrth ddychwelyd o Garreg Cennen i Ddinefwr, braidd yn anhrefnus mae'n ymddangos, ymosododd y Cymry arnynt yn sydyn. Roedd y rhan hon o Ystrad Tywi yn adnabyddus am ei choedwigoedd brigdew ac mae'n debyg fod y Cymry wedi manteisio ar hynny. Cafwyd lladdfa gwaedlyd. Lladdwyd y milwyr a marchogion Seisnig i gyd bron. Y golled fwyaf oedd lladd mab [[William de Valence]], Iarll 1af Penfro. Ymddengys nad oedd Gilbert de Clare ei hun yn bresennol. Nid oes cofnod o golledion y Cymry ond derbynnir eu bod yn isel.
|