Croatia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 78:
Oherwydd ei lleoliad daearyddol, mae Croatia yn cynrychioli cyfuniad o bedwar diwylliant gwahanol. Mae wedi bod yn groesffordd i ddylanwadau diwylliannol y gorllewin a'r dwyrain ers i'r Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol a'r Ymerodraeth Bysantaidd ymrannu - yn ogystal a diwylliannau Mitteleuropa a Mor y Canoldir.[240] Y mudiad Ilyraidd oedd y cyfnod mwyaf arwyddocaol yn hanes diwylliant y genedl, oherwydd i'r 19eg ganrif brofi'r allweddol i ryddhau'r iaith Croataidd a gweld datblygiadau nas gwelwyd eu math o'r blaen yn holl feysydd diwylliant a chelf.[43]
 
== Economi Croatia ==
{{prif|Economi Croatia}}
 
Mae Croatia yn cael ei hystyried gan y Cenhedledd Unedig fel economi incwm uchel. Mae data'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn dangos bod Cynnyrch Mewnwladol (GDP) enwol Croatia yn $53.5 billion, neu $12,863 per capita yn 2017, tra bod paredd grym pwrcasu y Cynnyrch Mewnwladol yn $100 billion, neu $24,095 per capita. Yn ôl data Eurostat, roedd PPS GDP Croatia yn 61% o'r cyfartaledd Ewropeaidd yn 2012.
 
Roedd twf real y Cynnyrch Mewnwladol yn 2007 yn 6.0 y cant. 5,895 HRK y mis oedd cyfartaledd cyflog gweithiwr yng Nghroatia yn Ionawr 2017, a chyfartaledd cyflog crynswth oedd 7,911 HRK y mis.[155] Yn Chwefror 2017, roedd cyfradd ddiweithdra gofrestredig Croatia yn 15.3 y cant.
 
 
{{Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd}}