Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 2,438 beit ,  blwyddyn yn ôl
Brwydr Cilgerran
[[Delwedd:Cilgerran fair NLW3361159.jpg|bawd|chwith|Hen ffotograff gan [[John Thomas (ffotograffydd)|John Thomas]] o ffair yng Nghilgerran yn 1885.]]
Mae'r cyfeiriad cynharaf at y dref yn dyddio i [[1204]] fel [[maenor]] yr arglwyddiaeth leol ; parhaodd yn faenor hyd yr [[16g]]. Er ei bod yn fychan roedd yn cael ei hystyried yn uno brif trefi marchnad Sir Benfro yn yr [[17g]], ac fe ddaeth yn fwrdeistref farchnad. Mae'r hynafiaethydd [[George Owen]], yn [[1603]], yn ei disgrifio fel un o bum bwrdeistref ym Mhenfro gyda ''portreeve''.
 
Yn ymyl y dref ceir adfeilion [[Castell Cilgerran]], [[castell]] [[Normaniaid|Normanaidd]] o'r [[13g]]. Saif y castell ar drwyn o graig uwchlaw [[afon Teifi]]. Credir mai [[castell mwnt a beili]] a godwyd ar y safle yn wreiddiol tua'r flwyddyn [[1100]]. Mae'r castell carreg presennol yn dyddio o ddechrau'r 13g.
 
Ym mynwent eglwys [[Llawddog]] Sant ceir [[maen hir]] gydag arysgrifiadau [[Ogam]] arno. Hefyd yn y fynwent mae bedd yr anturiaethwr [[William Logan]], a gysylltir â [[Mynydd Logan]], [[Canada]].
 
Bu Cilgerran yn enwog ar un adeg am safon y [[Diwydiant llechi Cymru|llechi a gloddiwyd]] yn yr ardal ac a allforiwyd o [[Aberteifi]].
 
====Castell a Brwydr Cilgerran====
{{Prif|Brwydr Cilgerran}}
Yn ymyl y dref ceir adfeilion [[Castell Cilgerran]], [[castell]] [[NormaniaidSaeson|NormanaiddSaesnig]] o'r [[13g]]. Saif y castell ar drwyn o graig uwchlaw [[afon Teifi]]. Credir mai [[castell mwnt a beili]] a godwyd ar y safle yn wreiddiol tua'r flwyddyn [[1100]]. Mae'r castell carreg presennol yn dyddio o ddechrau'r [[13g]].
 
Roedd [[Brwydr Cilgerran]] yn un o fuddugoliaethau mwya'r Cymry yn erbyn y Saeson, gan ddilyn yn agos at sodlau buddugoliaethau eraill yng [[Cymerau|Nghymerau]] ac yng [[Cydweli|Nghydweli]]. Roedd Llywelyn hefyd wedi cipio sawl castell yn ôl i ddwylo'r Cymry, gan gynnwys cestyll a threfi [[Talacharn]], [[Llansteffan]] ac [[Arberth]]. Disgrifir y frwydr mewn sawl cronicl o'r cyfnod, ceir cronicl llaw iawn gan ''Chronica Majora'' gan Matthew Paris yn ogystal â thestun-B yr ''Annales Cambriae''. Hyd yn ddiweddar, nid oedd trawsysgrifiad modern o'r gweithiau hyn ar gael, felly ni ddaeth pwysigrwydd y frwydr i'r amlwg tan yn ddiweddar (21c).
 
Yn wahanol i lawer o frwydrau'r cyfnod gwyddom union enwau arweinwyr y ddwy fyddin a'r union leoliad hefyd, i'r gogledd-orllewin o Gastell Cilgerran.
 
Yn 1258 galwodd [[Llywelyn ap Gruffudd]] holl is-dywysogion ac uchelwyr Cymru ato i dalu teyrnged iddo, casglodd drethi a galwodd ei hun yn Dywysog Cymru yn hytrach na 'Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri'.
 
=====Y frwydr=====
Erbyn 17 Mehefin 1258 roedd Maredudd ap Rhys wedi troi ei got ac yn deyrngar i Harri III, brenin Lloegr. Roedd Llywelyn yn gandryll am hyn,a llosgodd diroedd a meddiant Maredudd ap Rhys yn Nyffryn Tywi ond gyda chymorth Patrick de Chaworth daliodd ei afael mewn ambell gastell.
 
Trechwyd Maredydd a Patrick ger Cydweli a dinghanodd gweddillion Normanaidd i loches Castell Caerfyrddin. Symudodd byddin y Cymry, dan arweiniad [[Dafydd ap Gruffudd]], brawd Llywelyn, eu gwersyll o [[Maenordeifi|Faenordeifi]] yn agos at Gastell Cilgerran. Prif gapteiniaid Dafydd oedd [[Rhys Fychan ap Rhys Mechyll]] (m. 1271), [[Maredudd ab Owain]] (m.1265) ac [[Owain ap Gruffudd]]. Ymddengys eu bod yn awyddus i drafod heddwch gyda Patrick de Chaworth a'r rebel Maredudd ap Rhys. Sylweddolodd y ddau fod ganddynt fyddin llawer mwy na Byddin Cymru ac felly penderfynwyd ymosod arnynt gan gasglu eu byddin yn [[Aberteifi]] a'u martsio i Gilgerran. Cyrhaeddodd y fyddin Saesnig Cilgerran ganol dydd, gyda marchogion mewn arfwisgoedd ar y blaen. Cafwyd brwydr waedlyd iawn, yn ôl un cronicl, ond o dipyn i beth sylweddolwyd fod y Saeson yn cael eu trechu, gyda nifer ohonynt yn rhedeg am eu bywydau i gestyll Cilgerran ac Aberteifi, yn hytrach nag ymladd.
 
Roedd y fuddugoliaeth hon yn cryfhau pwer Llywelyn, yn enwedig pan arwyddwyd [[Cytundeb Trefaldwyn]] yn 1261.
 
==Hamdden a thwristiaeth==