[[Delwedd:Juan Carlos da Espanha.jpg|200px|bawd|Brenin Juan Carlos]]
MaeBrenin [[Sbaen]] yw '''Juan Carlos I de Borbón''' (''Ioan Siarl I'') (ganwyd fel '''Juan Carlos Alfonso Víctor María de Borbón y Borbón-Dos Sicilias''' yn [[Rhufain]], [[5 Ionawr]] [[1938]]) yn [[Brenin|Frenin]] [[Sbaen]]. Cafodd ei ddatgan yn frenin ar y [[22 Tachwedd|22ain o fis Tachwedd]], [[1978]] yn sgil marwolaeth [[Francisco Franco]], yn dilyn '''Deddf Olyniaeth Pennaeth y Wladwriaeth (1947)'''. Ar ôl hynny cafodd ei gydnabod fel Brenin a symbol undod cenedlaethol ac etifedd cyfreithiol i'r frenhinllin hanesyddol gan [[Cyfansoddiad Sbaen|Gyfansoddiad Sbaen]] ([[1978]]), cadarnhawyd gan [[refferendwm]] ar y [[6 Rhagfyr|6ed o fis Rhagfyr]] [[1978]].
==Hanes==
Ganed fel '''Juan Carlos Alfonso Víctor María de Borbón y Borbón-Dos Sicilias''', maeMae Juan Carlos I yn wyr i [[Alfonso XIII]] ac yn fab i Don [[Juan de Borbón]], ''conde de Barcelona'', a [[María de las Mercedes de Borbón y Orleans]], Tywysoges y Ddwy Sisilia. Cafodd ei eni yn [[Rhufain]]., [[Yr Eidal]] yn ystod alltudiaeth y [[Teulu Brenhinol Sbaen|Teulu Brenhinol]], alltudiaeth a ddechreuodd gyda sefydliad [[Ail Weriniaeth Sbaen]] ym [[1931]]. Cafodd ei fedyddio yng nghapel [[Urdd Malta]] gan Monsignor Eugenio Pacelli (wedyn y [[Pab Pïws XII]]).
Mewn cyfarfod rhwng [[Francisco Franco|Franco]] a [[Juan de Borbón]] ar y [[25 Awst|25ain o fis Awst]], [[1948]], cytunwyd i anfon y tywysog i [[Sbaen]] i astudio. Yn ddeng mlwydd oed, cyrhaeddodd Juan Carlos tirdir Sbaen am y tro cyntaf.
Cafodd ei addysgu yn Academi Milwrol [[Zaragoza]] ([[1955]]-[[1957]]), yn Ysgol Milwrol y Llynges Marin, [[Pontevedra]] ([[1957]]-[[1958]]), yn Academi yr Awyrlu [[San Javier, (Murcia)]], ([[1958]]-[[1959]]), a graddiodd ym [[Madrid]]. Yn ystod gwyliau'r [[Pasg]] ym [[1956]] -pan oedd yn 18 oed- lladdodd Juan Carlos ei frawd iau, [[Alfonso de Borbón y Borbón|Alfonso]], mewn damwain wrth iddynt chwarae gyda gwn.
Ym [[1947]], cafodd ei gydnabod fel etifedd y goron gan Ddeddf Olyniaeth Pennaeth y Wladwriaeth ar y [[26 Gorffennaf|26ain o fis Gorffennaf]].
==Ei ran mewn gwleidyddiaeth gyfoes==
|