Arminius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: id:Arminius
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ro:Arminius; cosmetic changes
Llinell 1:
:''Am y diwinydd Protestannaidd, gweler [[Jacobus Arminius]].''
 
[[ImageDelwedd:Herrmann-von-Vorne.JPG|thumb|Yr [[Hermannsdenkmal]]]]
 
Arweinydd Almaenig oedd '''Arminius''', hefyd '''Armin''', [[Almaeneg]] modern: '''Hermann''' ([[18 CC]]/[[17 CC]] - [[21]] OC). Mae'n fwyaf enwog am ei orchest yn dinistrio tair [[lleng Rufeinig]] ym [[Brwydr Fforest Teutoburg|Mrwydr Fforest Teutoburg]] yn [[9]] OC.
 
Roedd Arminius yn aelod o lwyth y [[Cherusci]] ac yn fab i'w pennaeth Segimerus. Bu'n ymladd dros Rufain, a rhoddwyd dinasyddiaeth Rufeinig iddo. Dychwelodd i'r Almaen a daeth yn arweinydd cynghrair o lwythau Almaenig i wrthwynebu Rhufain.
 
Yn 9 OC, enillodd ei fuddugoliaeth fwyaf yn [[Fforest Teutoburg]]. Ymladdwyd y frwydr dros nifer o ddiwrnodau, yn ôl pob tebyg rhwng [[9 Medi]] ac [[11 Medi]], a'r canlyniad oedd i dair [[lleng Rufeinig]] dan [[Publius Quinctilius Varus]], ([[Legio XVII]], [[Legio XVIII]] a [[Legio XIX]]), gael eu dinistrio'n llwyr gan yr Almaenwyr dan Arminius.
 
Roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag yn unrhyw frwydr yn erbyn gelyn allanol ers [[Brwydr Cannae]] yn erbyn [[Hannibal]]. Ni chafodd y tair lleng a ddinistriwyd eu hail-ffurfio. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig [[Suetonius]], gyrrwyd yr ymerawdwr [[Augustus]] bron yn wallgof gan y newyddion am y digwyddiad, gan daro ei ben yn erbyn muriau y palas a gweiddi ''Quintili Vare, legiones redde!'' ("Quintilius Varus, rho fy llengoedd yn ôl imi!")
Llinell 15:
Yn ddiweddarach, dechreuodd rhyfel rhwng Arminius a Marbod, brenin y Marcomanni. Gorfodd Arminius ei elyn i encilio, ond ni allai ei yrru allan o'i gadarnleoedd yn yr ardal a eleir yn [[Bohemia]] heddiw. Yn [[21]] llofruddiwyd ef gan aelodau o'i lwyth ei hun a'r [[Chatti]], oedd yn teimlo ei fod yn mynd yn rhy bwerus.
 
Yn y [[19eg ganrif]], yn enwedig yn ystod y brwydro yn erbyn [[Napoleon]] ar ddechrau'r ganrif, daeth Arminius yn symbol o genedlaetholdeb Almaenig. Yn [[1839]], dechreuwyd adeiladu cerflun enfawr ohono, yr ''Hermannsdenkmal'', ar fryn gerllaw [[Detmold]] yn [[Fforest Teutoburg]].
{{Cyswllt erthygl ddethol|de}}
 
[[Categori:Marwolaethau 21]]
[[Categori:Yr Ymerodraeth Rufeinig]]
[[Categori:Hanes yr Almaen]]
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|de}}
 
[[ar:أرمينيوس]]
Llinell 51 ⟶ 50:
[[pl:Arminius]]
[[pt:Armínio]]
[[ro:Arminius]]
[[ru:Арминий]]
[[scn:Arminiu]]