Harry Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

cerddor jazz,
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SUSANREES (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Harry Parry"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:45, 18 Gorffennaf 2018

Roedd Harry Owen Parry (22 Ionawr 1912 - 18 Hydref 1956) yn chwararewr clarinet jazz ac arweinydd band o Gymru.[1]

Ganwyd Parry ym Mangor, Cymru. Roedd yn chwarae'r cornet, corn tenor, flugelhorn, drymiau a ffidil yn blentyn, a dechreuodd chwarae'r clarinet a'r sacsoffon yn 1927. Wedi iddo symud i Lundain ym 1932, fe chwaraeodd gyda nifer o fandiau dawns, gan gynnwys Percival Mackey's, yna arweiniodd ei fand chwe aelod ei hun. Bu'n chwarae yng Ngwesty'r St. Regis yn 1940 pan gafodd ei ddewis gan y BBC i arwain y band yn ei sioe Radio Rhythm Club. Yna, aeth ymlaen i recordio dros 100 o deitlau ar gyfer Recordiau Parloffone gyda'i chwechawd, a oedd yn cynnwys George Shearing a Doreen Villiers fel aelodau.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, bu Parry yn gweithio'n helaeth ar radio a theledu, yn cynnwys bod yn chwaraewr recordiau. Bu'n teithio ar draws y byd fel arweinydd band yn y 1940au diweddar a'r 1950au, gan gynnwys y Dwyrain Canol a'r India. Roedd Parry yn ddyledus o ran ei arddull i Benny Goodman, cymhariaeth a nodwyd gan feirniaid cyfoes. Bu farw yn Llundain.

Cyfeirnodau

  1. Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 651. ISBN 978-0-7083-1953-6.

Bywgraffiad

  • Clarrie Henry, "Harry Parry". Grove Jazz online.