Brwydr Cwnsyllt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion |
B cyfeiriadaeth ac ehangu |
||
Llinell 1:
Brwydr a chyflafan rhwng [[Owain Gwynedd]] a byddin enfawr [[Harri II, brenin Lloegr]] ym [[1157]] oedd '''Brwydr Cwnsyllt''' (neu '''Frwydr Cwnsyllt''', neu '''Frwydr Bryn y Glo''' neu '''Frwydr Coed Ewloe''' neu '''Frwydr Coed Penarlâg'''),<ref>[http://cylchgronaucymru.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1073091/llgc-id:1074012/llgc-id:1074290/getText Gwefan www.cylchgronaucymru.llgc.org.uk; [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]].]</ref> gyda'r Cymry'n fuddugol.
[[Cwmwd]] yng ngogledd-ddwyrain [[Cymru]] ar lan aber [[afon Dyfrdwy]] oedd [[Cwnsyllt]] (Saesneg: ''Coleshill''). Gyda chymydau [[Prestatyn (cwmwd)|Prestatyn]] a [[Rhuddlan (cwmwd)|Rhuddlan]], roedd yn rhan o [[cantref|gantref]] [[Tegeingl]]. Digwyddodd y frwydr yma, ar safle ger [[Bryn y Glo]], yn [[1157]] a dihangodd brenin Lloegr o'r gyflafan trwy groen ei ddannedd.
Brwydr rhwng y 30,000 o filwyr Harri II, a'r Tywysog Owain Gwynedd gyda dim ond 3,000 o ddynion oedd hon pan lwyddodd y fyddin Gymraeg i drechu'r Normaniaid.
Trechwyd llynges Brenin Lloegr tua'r un pryd ym [[Môn]] gan y Cymry lleol a lladdwyd [[Henry
Yn yr un flwyddyn, ymosododd y Normaniaid ar [[Rhys ap Gruffudd]], Brenin y Deheubarth.
==Y frwydr==
Cododd milwyr Owain wersyll ger [[Abaty Dinas Basing]], tua 12 milltir o [[Saltney]] yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a danfonwyd rhan o'i fyddin o dan arweiniad dau o'i feibion i Goed Ewloe i guddio a pharatoi ar gyfer [[rhagod]]. Am ryw reswm, teithiodd y fyddin Saesnig drwy'r coed ac ymosododd y Cymry gan ladd nifer ohonynt. Cael a chael oedd hi i Harri fedru ffoi gyda'i fywyd.<ref>[http://www.balchdercymru.com/generalnews.htm Gwefan Balchder Cymru]</ref>
==Manylion yn nhrefn amser==
* 17 Gorffennaf 1157: Harri II, brenin Lloegr yn cynnal cyngor brenhinol yn [[Northampton]], lle cytunwyd i geisio goresgyn tiroedd y brenin Owain Gwynedd.
* 24 Mehefin: cofnododd Robert de Torigni i Harri II baratoi ar gyfer cyrch ar ogledd-ddwyrain Cymru, gyda gorfodaeth 'y dylai pob dau farchog ymarfogi trydydd marchog er mwyn ymosod ar fôr a thir.'<ref>[http://meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk/wp-content/uploads/2017/02/Coleshill-1157-Border-Archaeology-2009.pdf ''Welsh Battlefields, Historical Research: Coleshill (1157)''; Border Archaeology.</ref>
* Diwedd Gorffennaf 1157: ymgasglodd y fyddin Normanaidd yn ''Saltney Marsh'', i'r gorllewin o [[Caer|Gaer]] ([[Saltney]] heddiw), gyda Harri II yn bresennol.
* Yr un pryd crynhodd Owain Gwynedd a'i feibion Dafydd a Cynan y Fyddin Gymreig yn 'Ninas Basing' (o bosib ger [[Abaty Dinas Basing]]) gan godi amddiffynfa gref o'u cwmpas (gweler yr ''Annales'', RBH a Peniarth MS 20). Awgryma rhai haneswyr fod 'Dinas Basing' yn cyfeirio at ' Hen Blas'.
* Holltodd Harri ei fyddin yn ddwy ran; aeth nifer fawr o farchogion ar hyd yr arfordir, ac aeth y gweddill, gan gynnwys ef ei hun ymlaen i ymosod ar fyddin Owain drwy ooed Penarlâg ('coed Pennardlaoc' yn ôl Peniarth MS).
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
* J.E. Lloyd, ''A History of Wales from the earliest times to the Edwardian Conquest'', 2 gyfrol (Llundain 1939), II, 494-5.
* R.R. Davies, ''The Age of Conquest: Wales 1063-1415'' (Rhydychen 2000), 48-50
[[Categori:1157]]
|