Protagoras: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ffynhonnell
Tagiau: Golygiad cod 2017
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Golygu cyffredinol (manion), replaced: Y mae → Mae, Yr oedd → Roedd using AWB
Llinell 4:
Ganwyd yn [[Abdera]], yn [[Thracia]]. Mynegir ei fod mor dlawd yn nechrau ei fywyd fel y dilynai yr alwedigaeth o gario coed, pryd y darfu i [[Democritus]], a foddhawyd gymaint wrth ei weld yn rhwymo i fyny ei fwndel coed mor gywrain, ei gymryd yn un o'i ysgolheigion.
 
Nid oes dim o ysgrifeniadau Protagoras wedi dyfod i lawr i ni, ond y mae'n amlwg ei fod yn ddyn o alluoedd meddyliol anarferol. Y maeMae rhai o'i ddaliadau yn cael ymdriniaeth y ''Theaetetus'' gan [[Platon|Blaton]]. Teithiodd Protagoras trwy wlad Groeg i'r diben o roddi addysg mewn athroniaeth a [[rhethreg]]. Dywedir taw efe oedd y cyntaf ymhlith yr athronwyr Groegaidd a dderbyniodd arian am yr addysg a gyfranai i efrydwyr. Dywed [[Diogenes Laertius]] fod cymaint o alw am ei addysg fel y derbyniai weithiau gymaint â chant o'r darnau arian a elwid ''mina'' am ei wersi. Dywed Platon iddo, yn ystod y 40 mlynedd y bu yn cyfrannu addysg, ennill mwy o arian na [[Phidias]] a deg o gerflunwyr eraill. Yn ystod un o'i ymweliadau ag [[Athen]] yr alltudiwyd ef o'i wlad, ac y llosgwyd ei lyfrau yn y farchnad, am iddo ddweud, yn nechrau un o'i weithiau, nas gwyddai pa un a oedd eu duwiau yn bod ai peidio. Yn ôl rhai haneswyr, fe foddodd ar ei fordaith i [[Sisili]]. Yn ôl eraill, bu farw ar y fordaith hon.
 
Ymddengys taw Protagoras oedd y cyntaf i ddysgu areithyddiaeth fel celfyddyd. Os gellir casglu oddi wrth yr enghraifft a roddir o'i waith gan Blaton yn ei ''Protagoras'', yr oedd yn meddu ar ddychymyg bywiog a meistrolaeth fawr ar iaith. Yr oeddRoedd yn dra chyfarwydd yn llenyddiaeth ei wlad, yn enwedig yng ngweithiau'r hen feirdd, y rhai a ddyfynid ganddo yn aml yn ei areithiau. Mynegir taw efe a ddysgodd [[Isocrates]], a chyfeirir at ei ymarferiadau areithyddol gan [[Cicero]]. Protagoras oedd y cyntaf i ddyfod â rhaniadau celfyddgar i mewn i'w rethreg. Ymddengys ei fod wedi ysgrifennu gweithiau ar iaith ac areithyddiaeth. Meddai ar ddychymyg bywiog a ffrwythlon, cof rhyfeddol, a huodledd mawr; ond yr oedd yn hunanol, haerllug, a rhyfygus. Siaradai am ei gydymgeiswyr am enwogrwydd gyda dirmyg, ac amdano'i hun gyda graddau o hyder a dueddai i gynhyrfu edmygedd y bobl gyffredin.
 
== Cyfeiriadau ==