Dora the Explorer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Mae addasiad ffilm 'gweithredu byw' yn yr arfaeth gan [[Paramount Pictures]] a bwriedir ei rhyddhau ym mis Awst 2019.<ref name="Live-Action Dora film">{{cite web|url=http://www.hollywoodreporter.com/heat-vision/dora-explorer-movie-works-nick-stoller-1051195|title='Dora the Explorer' Movie in the Works With Nick Stoller (Exclusive)|date=October 23, 2017|accessdate=October 23, 2017|work=[[The Hollywood Reporter]]|last=Kit|first=Borys}}</ref>
 
Mae'r gyfres yn seiliedig ar anturiaethau Dora, merch Latina saith mlwydd oed. Mae'n mynd ar drywydd perthnasol i weithgaredd sydd wedi cymryd ei sylw, a hynny yng nghwmni sach cefn porffor sy'n gallu siarad a mwnci o'r enw Boots (sydd wedi'i enwi ar ol ei esgidiau coch). Mae pob pennod yn cyflwyno cyfres o weithgareddau neu ddigwyddiadau, ac mae disgwyl i Dora a Boots, gyda chymorth y gynulleidfa, ddatrys posau sy'n seiliedig ar rigymau, yr iaith Sbaeneg, neu gyfri.

O dro i dro, mae Dora yn dod ar draws Swiper, llwynog sy'n lladrata. Er mwyn ei atal, rhaid i Dora ddweud "Swiper no swiping" dair gwaith. Weithiau mae disgwyl i'r gynulleidfa helpu Dora a Boots i ddod o hyd i'r eiteau sydd wedi'u dwyn. Mae nhw weithiau yn gorfod wynebu hen ellyll blin - "Grumpy Old Troll" - sy'n byw o dan bont y mae'n rhaid iddyn nhw ei chroesi. Mae'r ellyll yn rhoi rhigwm iddyn nhw ei ddatrys, eto gyda chymorth y gynulleidfa, cyn eu bod yn cael croesi.

Mae pob pennod bob amser yn gorffendiweddu gyda Dora yn llwyddo i gyrraedd y nod, ac yn canu can o lawenydd gyda Boots. Mae'r gyfres wedi'i chyfieithu i nifer o ieithoedd, gan gynnwys Arabeg, Cantonaidd, Iseldireg, Gwyddeleg, Hindi, Daneg, Tyrceg. Nid yw wedi'i chyfieithu i'r Gymraeg.
 
== Cyfeirnodau ==