Tre Taliesin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: br:Tre-Taliesin
tarddiad yr enw
Llinell 2:
Pentref yn ardal [[Genau'r Glyn]], gogledd [[Ceredigion]], yw '''Tre Taliesin'''. Lleolir y pentref ar y briffordd [[A487]], tua hanner ffordd rhwng [[Machynlleth]] i'r gogledd-ddwyrain ac [[Aberystwyth]] i'r de. Y pentrefi agosaf yw [[Tal-y-bont (Ceredigion)|Tal-y-bont]] i'r de a phentref bychan [[Llangynfelyn]], hanner milltir i'r gorllewin. Mae Tre Taliesin ei hun yn rhan o blwyf a chymuned Llangynfelyn.
 
Mae gan yr ardal gysylltiadau cryf â'r [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]]; yn ''[[Hanes Taliesin]]'' mae [[Elffin ap Gwyddno]] yn ei ddarganfod yn hongian mewn basged yng nghored [[Gwyddno Garanhir|Gwyddno]], i'r gogledd-orllewin o Dre Taliesin rhywle rhwng [[Y Borth]] ac [[Aberdyfi]]. Yn y bryniau tua milltir i'r dwyrain ceir [[cromlech]] [[cynhanes|gynhanesyddol]] a adnabyddir fel [[Bedd Taliesin]].
 
I'r gorllewin o Dre Taliesin, ar ôl Llangynfelyn, ceir corsdir eang [[Cors Fochno]], sydd â lle amlwg yn y [[canu darogan]] Cymraeg ac sy'n gysylltiedig â chwedlau [[llên gwerin]] diddorol.
 
Brodor o'r ardal oedd y llenor ac arbenigwr llên gwerin [[Evan Isaac]]. Mae ei gyfrol ''Yr Hen Gyrnol a brasluniau eraill'' (1934) yn cynnwys ysgrifau am rai o hen gymeriadau'r ardal ar ddiwedd y 19eg ganrif.
 
==Tarddiad yr enw==
Yr hen enw ar y lle oedd "Commins y Dafarn Fach". Oherwydd dylanwad piwritanaidd, parchuswyd yr enw i'r enw presenol. Yn y bryniau tua tri chwarter milltir i'r de-ddwyrain ceir [[cromlech]] [[cynhanes|gynhanesyddol]] o'r [[Oes Efydd]] a adnabyddir fel [[Bedd Taliesin]] neu Gwely Taliesin (1815).