Tôn (iaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
cywiro dolen
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
ffurf syml y ferf
Llinell 46:
 
==Tarddiad tôn==
Fe ddarganfyddwyd tarddiad tonau yn Nwyrain a De-ddwyrain Asia gan yr ieithydd [[A.-G. Haudricourt]]: maetardd tonau yn ieithoedd fel [[Fietnameg]] a [[Tsieinëeg]] yn tarddu o wrthgyferbyniadau cytseinol cynharach. Erbyn hyn mae ieithyddion yn cytuno doedd dim tonau gan [[Hen Tsieinëeg]]. Ar y llaw arall, mae tarddiad tonau yn Affrica Is-Sahara yn anhysbys o hyd: fe ystyrir bod ieithoedd Bantw yn disgyn o iaith donyddol
 
Fe elwir tarddiad hanesyddol tonau yn [[tonogenesis]] (gair a grëwyd gan yr ieithydd [[James A. Matisoff]]). Yn aml mae tôn yn nodwedd awyrol yn hytrach na genetig: Hynny yw, gallai iaith ennill tonau drwy ddwyieithogrwydd os yw ieithoedd dylanwadol cyfagos yn donyddol neu os yw siaradwyr iaith donyddol yn newid i'r iaith mewn cwestiwn ac yn dod â'u tonau iddi. Mewn achosion eraill, cwyd tôn yn wirfoddol ac yn gyflym: Mae tôn gan dafodiaeth Cherokee a siaredir yn Oklahoma ond nid oes tôn gan y dafodiaeth a siaredir yng [[Gogledd Carolina|Ngogledd Carolina]], er gwahanodd y ddwy dafodiaeth ond yn [[1838]].