Geisha: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sl:Gejša
manion, dolen
Llinell 1:
[[Image:Geisha-kyoto-2004-11-21.jpg|200px|bawd|Dwy geisha yn ardal [[Gion]], [[Kyoto]]]]
Mae '''geisha''' ([[Siapaneg]]: 芸者, ''Geisha'') neu '''geiko''' (芸妓, ''Geiko'') yn ddiddanwyr benywaidd, traddodiadol [[Siapan]]eaidd. Mae eu sgiliau'n cynnwys perfformio celfyddydol Siapaneaidd, megis cerddoriaeth glasurol a dawns. Yn groes i'r gred gyffredin, nid [[puteiniaid]] yw geisha.
 
Llinell 22:
Mae geisha modern yn parhau i fyw mewn tai geisha traddodiadol a elwir okiya mewn ardaloedd o'r enw hanamachi ("trefi blodau"), yn enwedig yn ystod eu prentisiaeth. Mae nifer o geisha profiadol yn ddigon llwyddiannus i fedru dewis byw yn annibynnol. Gelwir y byd gosgeiddig, uchel-ael mae'r geisha yn rhan ohono yn karyūkai (花柳界 "byd y blodyn a'r helygen").
 
[[Image:Maiko in Gion.jpg|230px|bawd|chwith|Y ''maiko'' Mamechiho yn Kyoto. Mae gwisg ei gwallt yn dangos ei bod o ardal geisha [[Gion]]-kobu]]
Y dyddiau yma, mae gwragedd ifanc sy'n dymuno bod yn geisha yn dechrau eu hyfforddiant wedi iddynt gwblhau ysgol iau neu hyd yn oed ysgol hŷn neu goleg, gyda nifer ohonynt yn dechrau eu gyrfa pan yn oedolion. Bydd geisha yn astudio offerynnau traddodiadol fel y [[shamisen]], [[shakuhachi]] (y ffliwt bambw), a'r drymiau, yn ogystal â chaneuon traddodiadol, [[dawns]] Siapaneaidd draddodiadol, [[Seremoni te|seremonïau tê]], [[llenyddiaeth]] a [[barddoniaeth]]. Trwy wylio geisha eraill a gyda chymorth perchennog y tŷ geisha, bydd y geisha o dan hyfforddiant hefyd yn dysgu'r traddodiadau cymhleth eraill sy'n ymwneud â dewis a gwisgo kimono a delio â chwsmeriaid.
 
Llinell 44:
Yn ogystal â hyn, galwyd y "geisha" a weithiai mewn trefi [[onsen]] yn ''geisha onsen''. Mae gan y "geisha onsen" enw gwael o ganlyniad i'r nifer o buteiniaid mewn trefi bychain a alwodd eu hunain yn "geisha", yn ogystal a'r dawnsiau fel "Shallow River" (lle byddai'r dawnswyr yn codi eu sgertiau'n uwch ac yn uwch.) Ar y llaw arall, roedd y "geisha onsen" gwirioneddol yn gerddorion ac yn ddawnswyr profiadol a chymwys. Fodd bynnag, yn hunangofiant Sayo Masuda, "geisha onsen" a weithiodd yn Nhalaith Nagano yn ystod y 1930au, roedd pwysau dychrynllyd ar y gwragedd yma i werthu'u cyrff i'w cwsmeriaid.
 
== Perthynas Personol a ''danna'' ==
 
== Perthynas Personol a danna ==
 
Disgwylir i geisha fod yn wragedd sengl; mae'r rheiny sy'n dewis priodi yn gorfod gadael y proffesiwn.
 
Llinell 54 ⟶ 52:
 
Mae'n wir dweud bod rhyddid gan y geisha i ffurfio perthynas bersonol gyda dyn y bydd yn cyfarfod yn rhinwedd ei swydd ond mae'r perthynas o'r fath yn gorfod cael ei ddewis yn ofalus. Mae'r hanamachi yn dueddol o fod yn gymdeithas glos iawn ac felly gwneir popeth posib er mwyn gwarchod enw da yr unigolyn.
 
==Gweler hefyd==
* [[Gion]], ardal geisha enwocaf Siapan, yn Kyoto
 
[[Categori:Diwylliant Japan]]