Heddwch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
iaith
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: bat-smg:Taika; cosmetic changes
Llinell 6:
Mae gan y [[Cenhedloedd Unedig]] "Lu cadw heddwch" sef byddin sy'n ceisio datrys gwrthdaro rhwng pobl neu wledydd. Ond nid yw'r Llu cadw heddwch yn Llu di-drais gan ei bod yn defnyddio trais os oes rhaid i gadw'r heddwch. Mae'r syniad o ddefnyddio trais neu ryfel i "greu" heddwch yn hen syniad; [[rhyfel cyfiawn]] yw'r ymadrodd a ddefnyddir. Dywedwyd ar y pryd fod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] i fod yn "rhyfel i orffen neu ddiweddu pob rhyfel". Ond bu rhyfeloedd ar ôl y rhyfel byd. Cred [[heddychaeth|heddychwyr]] nad yw trais na rhyfela yn creu heddwch mewn gwirionedd. Mae yna enghreifftiau o drais yn cael eu defnyddio i oresgyn a thawelu pobl, megis y "Pax Romana" dan yr [[Ymerodraeth Rufeinig]], neu fel y gwnaeth y [[Normaniaid]] yng Nghymru, a'r [[Ymerodraeth Brydeinig]] mewn sawl gwlad arall yn y byd (gweler [[Imperialaeth]]). Ond dadla heddychwyr fod ceisio heddwch trwy drais yn ofer, ac mai trwy [[cyfiawnder|gyfiawnder]] y mae creu gwir heddwch.
 
== Heddwch a chrefydd ==
Mae sawl [[crefydd]] yn annog heddwch, [[Bwdhaeth]], [[Cristnogaeth]] ac [[Islam]] er enghraifft (yn wir, heddwch yw un o ystyron y gairالإسلام). Fodd bynnag, mae rhai [[anffyddiaeth|anffyddwyr]] yn honni fod crefydd yn achosi gwrthdaro.
 
== Mudiadau heddwch ==
Mae yna nifer o fudiadau sy'n gweithio dros heddwch yng Nghymru, megis [[CND]] a [[Cymdeithas y Cymod|Chymdeithas y Cymod]], a hefyd nifer o grŵpiau heddwch a chyfiawnder lleol. Mae'r mudiadau yma'n ymgyrchu yn erbyn rhyfel a thrais yn y byd.
 
== Gweler hefyd ==
*[[Rhyfeloedd cyfredol]]
 
Llinell 22:
[[an:Paz]]
[[ar:سلام]]
[[bat-smg:Taika]]
[[be-x-old:Мір]]
[[bg:Мир]]