Carpatiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Cadwyn o fynyddoedd yw'r '''Carpatiau''' neu '''Fynyddoedd Carpathia''' sy'n ymestyn fel bwa o tua 1,500 km (932 milltir) ar draws [[Canolbarth Ewrop|Canolbarth]] a [[Dwyrain Ewrop]]. Dyma'r gadwyn fwyaf ar gyfandir [[Ewrop]], sy'n cynnig cynefin i'r poblogaethau uchaf yn Ewrop o [[arth|eirth brown]], [[blaidd|bleiddiaid]], ''[[chamois]]'' a ''lynx'', ynghyd â thraean o rywogaethau planhigion Ewrop.
 
Cadwyn o gadwynau llai yw'r CarpadiauCarpatiau, sy'n ymestyn o'r [[Weriniaeth Tsiec]] yn y gogledd-orlelwin i [[Slofacia]], [[Gwlad Pwyl]], [[Hwngari]], [[Wcráin]] a [[Romania]] yn y dwyrain, hyd at y 'Pyrth Haearn' ar [[Afon Daniwb]] rhwng Romania a [[Serbia]] yn y de. Y gadwyn uchaf yn y Carpatiau yw'r [[Tatra Uchel]], am y ffin rhwng Gwlad Pwyl a Slofacia, lle mae'r copaon uchaf yn cyrraedd hyd at 2,600 m (8,530 troedfedd) o uchder, ac sy'n cael eu dilyn gan y Carpatiau Deheuol yn Romania, lle ceir copaon o hyd at 2,500 m (8,202 tr). Fel rheol mae daearyddwyr yn rhannu'r Carpatiau yn dair rhan fawr: y Carpatiau Gorlelwinol (Gweriniaeth Tsieic, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari), y Carpatiau Dwyreiniol (de-ddwyrain Gwlad Pwyl, dwyrain Slofacia, Wcráin, Romania) a'r Carpatiau Deheuol (Romania, Serbia).
 
Mae'r dinasoedd pwysicaf yn y Carpatiau neu'r cyffiniau yn cynnwys [[Bratislava]] a [[Košice]] yn Slofacia; [[Krakow]] yng Ngwlad Pwyl; [[Cluj-Napoca]], [[Sibiu]] a [[Braşov]] yn Romania; a [[Miskolc]] yn Hwngari.