Sei Shōnagon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
Llenores Siapaneaidd a flodeuai ar ddiwedd y 10fed ganrif a dechrau'r 11fed. Mae hi'n enwog am ei llyfr ''Makura no Sōshi'' ("Llyfr Erchwyn y Gwely" / ''The Pillow Book'') a adnebyddir fel un o glasuron mawr [[llenyddiaeth Siapan]]. Ychydig a wyddys amdani ar wahân i'r argraffiadau o'i theimladau a'i bywyd personol a geir yn ''Makura no Sōshi'' ei hun ac ambell gyfeiriad ati gan yr Arglwyddes [[Murasaki]], awdures y nofel hir ''Genji no Monogatari'' (Hanes Genji). Roedd hi'n ferch i lywodraethwr rhanbarthol o'r enw Kiyowara Motosuke ac un o ddisgynyddion yr Ymherodr Temmo (630-686). Roedd ei thad a'i thaid yn llenorion. Yn 990 cafodd Sei Shōnagon ei phenodi yn arglwyddes siambr i'r Ymherodres Sadako, prif wraig yr Ymherodr Ichijo Tenno. Mae'n debyg bod Sei, fel nifer o ferched bonheddig eraill, yn byw yn y llys ymherodrol yn [[Heian Kyo]] (ar safle Kyoto hedddiw) cyn ei hapwyntiad ; yn sicr bu'n byw yno tan tua 1000 pan gollodd yr Ymherodres Sadako ei lle yn y llys ar ddechrau teyrnasiad [[Fujiwara no-Michinaga]]. Dilynodd Sei ei meistres mewn alltudiaeth a diflanodd oddi ar dudalennau hanes.
 
 
== Ei gwaith ==