Lladin Llafar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 73:
 
===Berfau===
Effeithiwyd y ffurfiau berfol llawer yn llai gan y colledion ffonetig a erydodd y system o [[cyflwr gramadegol|gyflyrau enwol]]; yn wir, ymddengys berfau Sbaeneg neu Bortiwgaleg (a nifer o ieithoedd Romáwns) yn debyg iawn i’w ffurfiau hynafol Lladin o hyd. Un rheswm am hyn oedd yr aceniad cryf a ddatblygodd yn Lladin Llafar a roddodd pwyslais ar sillafau gwahanol yn y ffurfiau rhediedig. Felly, parhaodd y ffurfiau i esblygu’n ffonetig, ond ni erydodd y gwahaniaethau rhwng y ffurfiau rhediedig.
 
Er enghraifft, yn Lladin, roedd y geiriau am "caraf" a "carwn" yn ''amō'' ac ''amāmus''. Yn [[Hen Ffrangeg]] achosodd yr A accenog [[dipthong]] gan achosi ''(j’)'''ai'''me'' ac ''(nous) '''a'''mons''. Er bod nifer o ffonemau wedi’u colli yn y ddau achos, cadwyd gwahaniaeth rhyngddynt oherwydd yr aceniad. Mae dylanwadau rheoli wedi dadwneud yr effaith yn nifer o achosion (y ffurf fodern yn [[Ffrangeg]] yw ''nous '''ai'''mons'') ond mae rhai berfau modern wedi cadw’r ffurf afreolaidd, fel ''je v'''ie'''ns'' (dof) yn erbyn ''nous v'''e'''nons'' (down), a ddaeth o’r [[Lladin]] ''veniō'' a ''venīmus''.
Crëwyd amser dyfodol newydd ar ferfau Lladin Llafar gan ddefnyddio berfau cyfnerthu. Oherwydd cyfuniad y /b/ a’r /w/, daeth ffurfiau’r dyfodol fel ''amabit'', i swnio’n union fel y ffurfiau perffaith fel ''amauit'', gan gyflwyno amwysedd anerbynniol. Ffurfiwyd dyfodol newydd gyda’r ferf cyfnerthu ''habere'', ''*amare habeo'', yn llythrennol "caru caf". Fe gyfangwyd y ffurf newydd hon gan droi’n olddodiad dyfodol yn yr ieithoedd Romáwns gorllewinol. Gweler enghreifftiau o “byddaf yn caru/cara i” yn yr ieithoedd fodern:
*[[Ffrangeg]]: '''''j’aimerai''''' (''je'' + ''aimer''' + ''ai'') < ''aimer'' [caru] + ''ai'' [caf]
*[[Portiwgaleg]]: '''''amarei''''' (''amar'' + ''[h]ei'') < ''amar'' [caru] + ''hei'' [caf]
*[[Sbaeneg]] a [[Catalaneg|Chatalaneg]]: '''''amaré''''' (''amar'' + ''[h]e'') < ''amar'' [caru] + ''he'' [caf]
*[[Eidaleg]]: '''''amerò''''' (''amar'' + ''[h]o'') < ''amare'' [caru] + ''ho'' [caf]
 
Ffurfiwyd [[modd amodol]] (a wahaniaethai o'r modd dibynnol traddodiadol) yn yr un ffordd (amhenodol + ffurf rhediedig o ''habere'').
 
==Geirfa==