Vishnu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
'universal form' ydy'r Saesneg
Llinell 3:
Yn y ''Vishnu Sahasranama'' disgrifir Vishnu fel hanfod hollbresennol popeth byw, arglwydd y gorffennol, y presennol a'r dyfodol sydd hefyd y tu hwnt i bob gradd amser, creawdwr a dinistriwr popeth sy'n bodoli, yr un sy'n cynnal, maethu a rheoli'r [[Bydysawd]] ac sy'n creu a datblygu popeth o'i fewn. Yn nysgeidiaeth y [[Trimurti]], Vishnu sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r Bydysawd, gyda [[Brahma]] a [[Shiva]] yn gyfrifol am ei greu a'i ddinistrio neu ei drawsffurfio. [[Krishna]] yw ymrithiad enwocaf Vishnu.
 
Yn y [[Purana]], portreadir Vishnu fel bod o liw'r [[cwmwl|cymylau]] ([[glas]] tywyll), gyda phedair braich, yn dal [[lotws]] (''padma''), gwialen (''gada''), consh (''sada'') a ''[[chakra]]'' (olwyn sy'n cynrychioli [[amser]] neu'r ''[[dharma]]''). Yn y ''[[Bhagavad Gita]]'', dywedir fod gan Vishnu 'Rithffurf Catholigbyd-eang' (''Vishvarupa'') neu dragwyddol sydd y tu hwnt i'r amgyffred dynol.
 
Ceir gwybodaeth am ''[[avatar]]s'' (bywydau, agweddau neu rathiadau) Vishnu yn y Puranas. Dywedir yno fod naw o'r ''avatars'' hyn wedi bod yn y gorffennol, gydag un arall i ddod yn y [[Kali Yuga]] presennol. Yn y traddodiadau Sanatana Dharma, addolir Vishnu naill ai yn uniongyrchol neu drwy ei ''avatars'', yn enwedig yn rhith [[Rama]], [[Krishna]], [[Varaha]] a [[Narasimha]]. Mae ei ffurfiau eraill yn cynnwys [[Narayana]] a [[Vasudeva]] a'r pysgodyn [[Matsya]].