Krishna: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Duw a addolir mewn sawl traddodiad [[Hindŵaeth|Hindŵaidd]] yw '''Krishna''' ([[Sansgrit]]: कृष्ण). Mae'n ffigwr canolog yn addoliad enwadau [[Vaishnaviaeth]].
 
Darlunnir Krishna fel rheol fel dyn ifanc croen tywyll neu lasglas, neu fel baban, fel bugail gwartheg ifanc yn canu'r ffliwt, fel yn y [[Bhagavata Purana]], neu fel tywysog ifanc sy'n rhoi cyngor athronyddol, e.e. fel cyfaill [[Arjuna]] yn y ''[[Bhagavad Gita]]'' (rhan o'r ''[[Mahabharata]]''). Ei arf yw'r disgdisgen ([[Sudarshana Chakra]])ac mae'n marchogaeth [[Garuda]].
 
Ceir nifer o chwedlau am Krishna mewn sawl traddodiad diwinyddol ac ysgol athroniaeth Hindŵaidd. Er bod y manylion yn amrywio yn ôl dysgeidiaeth y traddodiad, mae rhai elfennau yn ganolog. Mae'r rhain yn cynnwys ymgnawdoliad dwyfol (''[[avatar]]''), plentyndod a llencyndod fel bugail gwartheg yng nghanol natur, yn aml yng nghwmni merched hardd, a gyrfa fel rhyfelwr [[arwr]]ôl ac athro neu gynghorydd. Mae'n enwog am ei garwriaethau niferus ac mae ganddo bedwar cymar, sef y duwiesau [[Radha]], [[Rukmini]], [[Satyabhama]] a [[Janbavati]].