Iddewiaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfnod diweddar: erlid Iddewon yn y Cymoedd
Llinell 8:
Gyda thwf cyffredinol mewnfudo Iddewon i wledydd Prydain yn y 19eg ganrif, sefydlwyd cymunedau Iddewig mewn sawl rhan o Gymru. Atgyfnerthwyd cymunedau oedd yn bodoli eisoes a sefydlwyd rhai newydd yn yr ardaloedd diwydiannol yn bennaf. Roedd hyn yn rhan o batrwm o bobl yn dod i mewn i Gymru o wledydd fel Iwerddon, Lloegr a'r Eidal i weithio. Erbyn diwedd y ganrif roedd cymunedau bychain o Iddewon, masnachwyr a pherchnogion siopau gan amlaf, i'w cael yn y rhan fwyaf o gymoedd y De.<ref>Todd M. Endelmann, ''The Jews of Britain, 1656-2000'' (University of California Press, 2002), t.130}}</ref>
 
==Erlid Iddewon Tredegar==
Fel rheol, dangoswyd lefel cymeradwy o oddefgarwch tuag at y cymunedau Iddewig newydd hynny. Ond ceir un eithriad. Yn ardal [[Tredegar]] a threfi eraill yn y cylch, dangosodd [[gwrth-Semitiaeth]] ei ben ym misar [[19 Awst]] [[1911]], pan ymosodwyd ar siopau Iddewig gan dyrfaoedd o weithwyr (tua 200 ohonyn nhw), rhai ohonynt yn canu emynau Cristnogol, gan wneud rhwng £12,000 a £16,000 o ddifrod." Torrwyd ffenestri siopai Iddewig a dwyn ohonyn nhw, gyda'r heddlu'n sefyll yn ôl yn ddiymaferth. Dyddiau'n ddiweddarach roedd y trais wedi ymledu i [[Cwm Rhymni|Gwm Rhymni]] a [[Glynebwy]], [[Bryn Mawr]], [[Bargoed]] a [[Sanghennydd]]. Nid oedd sôn am Iddewon yn y Cymoedd wedi hyn. <ref>Endelmann, ''op. cit.'', t.162.</ref> <ref>Rhywbeth Bob Dydd gan Hafina Clwyd, cyhoeddwyd gan wasg Carreg Galch, Medi 2008, tudalen 110.</ref>
 
==Heddiw==