Rhanbarth Ymreolaethol Tibet: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Cafodd y rhanbarth ei ffurfio ar ôl i Weriniaeth Pobl Tsieina oresgyn Tibet yn ystod y 1950au. Mae'n cynnwys talaith hanesyddol [[Ü-Tsang]] a rhan o orllewin [[Kham]], dwy o'r tair talaith hanesyddol - gydag [[Amdo]] - a ffurfiai deyrnas Tibet.
 
Mae llywodraeth alltud Tibet - [[Gweinyddiaeth Ganolog Tibet]] - yn gwrthod cydnabod y rhanbarth, gan ddadlau iddo gael ei orfodi ar Dibet gan rannu'r wlad mewn canlyniad a rhoi ei rhannau dwyreiniol i Tsieina. Ffôdd nifer fawr o Dibetiaid o'r ardal i geisio lloches yn [[India]], e.e. yn [[Dharamsala]] a [[Darjeeling]], ac mae nifer sylweddol o bobl [[Tsineaid Han|Han]] o [[Tsieina]] wedi symud i mewn i fyw yno ers hynny, gyda chefnogaeth ariannol llywodraeth Tsieina.