Cymdeithas y Cymod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 19:
== Didreisedd ==
Maent yn bobl sydd wedi cwestiynu mawredd [[Iwl Cesar]], [[Napoleon]], [[Teddy Roosevelt]] a [[Winston Churchill]]. Yn ystod pob gwrthdaro treisiol, boed yn [[Groesgad]], [[chwyldro]] neu ryfel mae yna bobl sydd wedi ymwrthod â lladd gan ddadlau fod trais yn bechod ac yn ffordd aneffeithiol yn y pen draw i ddatrys y sefyllfa.
Cred y gymdeithas fod rhai o'r bobl yma wedi talu'r pris hefyd am ddilyn ffordd tangnefedd, fel yr aeth yr Iesu i'r groes, ac fe lofruddiwyd [[Gandhi]] a [[Martin Luther King]], yn ein hoes ni. Credant nad yw trais ddim yn datrys dim, ond yn arwain at fwy o drais. Credant fod trais yn ymddangos fel pe bai'n gweithio dros dro, ond yn y tymor hir y gall greu anghyfiawnder a'r awydd i ddial. Credant na fu rhyfel erioed sydd wedi arwain at heddwch parhaol ac nad drwy ryfel a thrais y ceir heddwch, eithr drwy gymod.
== Crefydd a Heddychiaeth==
|