San Francisco: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 26:
Ym 1776, sefydlodd y [[Sbaen]]wyr amddiffynfa wrth y Golden Gate a chenhadaeth a enwyd ar gyfer [[Ffransis o Assisi]]. Yn sgîl y Rhuthr am Aur ym 1849, aeth y ddinas trwy gyfnod o dŵf cyflym, a drawsnewidiodd y ddinas nes ei bod y ddinas fwyaf ar yr Arfordir Orllewinol ar y pryd. Ym 1906, cafodd San Francisco ei tharo gan [[daeargryn|ddaeargryn]] a [[tân|thân]] a chafodd mwy na 3,000 o bobl eu lladd a rhan helaeth o'r ddinas ei dinistrio. Ail-adeiladwyd y ddinas yn gyflym, gan gynnal Arddangosfa Ryngwladol Panama-Pasiffig naw mlynedd yn ddiweddarach. Yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], San Francisco oedd y man ffarwelio ar gyfer nifer o filwyr. Pan ddaeth y rhyfel i ben, arweiniodd y don o filwyr yn dychwelyd, [[mewnfudo|mewnfudiad]] enfawr, agweddau rhyddfrydol, a ffactorau eraill at yr [[Haf o Gariad]] a'r mudiad hawliau [[hoyw]], gan gadarnhau statws San Francisco fel canolfan rhyddfrydol yn yr Unol Daleithiau.
 
Erbyn heddiw, mae San Francisco yn ganolfan ryngwladol o ran y byd ariannol, cludiant a diwylliannoldiwylliant. Mae'r ddinas hefyd yn gyrchfan gwyliau poblogaidd i dwristiaid sy'n enwog am ei niwl hafaidd, ei bryniau serth niferus, ei chymysgedd o bensaernïaeth Fictoraidd a modern, aei thirnodau bydenwog fel [[Pont Golden Gate]], ei cherbydau ceblau a [[Tref Tsieina|Thref Tsieina]].
 
== Daearyddiaeth ==