Cymry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
{{Gwybodlen Grŵp ethnig|
|enw=Cymry
|delwedd=W. Thelwall Thomas and friends NLW3363755.jpg
|poblogaeth=Rhwng 4.5–5 miliwn
|pennawd=Ffotograff o’r llawfeddyg [[William Thelwall Thomas]] a'i gyfeillion (tua 1882).
|ardaloedd={{poblogaeth|Cymru|2 583 746}}{{poblogaeth|Yr Unol Daleithiau|1.75 miliwn}}{{poblogaeth|Canada|350 365}}{{poblogaeth|Awstralia|84 567}}{{poblogaeth|Yr Ariannin|72 685}}{{poblogaeth|Seland Newydd|9 966}}
|poblogaeth= 6–16.3 miliwn<ref name="Welsh names">{{cite web|url=http://gov.wales/docs/caecd/research/061102-welsh-diaspora-analysis-geography-welsh-names-en.pdf|title=The Welsh diaspora : Analysis of the geography of Welsh names |accessdate=27 Gorffennaf 2018 |author=Richard Webber|work=Cynulliad Cenedlaethol Cymru}}</ref>
|ardaloedd={{poblogaeth|Cymru|2&nbsp;miliwn}}<ref>"[https://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/2011censuskeystatisticsforwales/2012-12-11?:uri=peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/2011censuskeystatisticsforwales/2012-12-11#grwp-ethnig-a-hunaniaeth Cyfrifiad 2011: Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru, Mawrth 2011]", [[Swyddfa Ystadegau Gwladol]]. "Yng Nghymru, nododd 66 y cant (2.0 miliwn) o breswylwyr arferol eu bod yn Gymry (naill ai fel unig ateb neu mewn cyfuniad â hunaniaethau eraill)." Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2018.</ref>
|ieithoedd=[[Cymraeg]], [[Saesneg]]
|crefyddau=[[Cristnogaeth]], arall,yn dimbennaf
|perthynol=[[GwyddelodCernywiaid]], [[Llydawyr]], [[Saeson]], [[Albanwyr]], [[CernywiaidGwyddelod]], [[Manawyr]]
}}
[[Cenedl]] a [[grŵp ethnig]] yw'r '''Cymry''' sydd yn gysylltiedig â'r iaith [[Cymraeg|Gymraeg]] ac yn frodorion gwlad [[Cymru]]. Maent yn [[gwledydd Celtaidd|bobl Geltaidd]] ac yn un o genhedloedd [[Ynysoedd Prydain ac Iwerddon]]. Mae cenedl y Cymry yn un o'r rhai hynaf yn [[Ewrop]], gyda'i hanes yn mynd yn ôl i amser [[Y Celtiaid|yr hen Geltiaid]].
 
Fel cenedl Geltaidd, mae'r Cymry yn perthyn yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol i'r [[Cernywiaid]], y [[Llydawyr]], y [[Gwyddelod]], yr [[Albanwyr]], a'r [[Manawyr]]. Ers cread y genedl yn oes y rhyfeloedd rhwng y [[Brythoniaid]] a'r [[Eingl-Sacsoniaid]], bu hanes hir o wrthdaro, gelyniaeth, cydweithrediad, cyfeillgarwch, a chyd-ddibyniaeth rhwng y Cymry a'r [[Saeson]].
 
Hyd at ddiwedd y 19g, roedd y mwyafrif helaeth o Gymry yn siarad yr iaith [[Cymraeg|Gymraeg]] yn unig. Yn ogystal â'r newidiadau ieithyddol yng Nghymru, mae mewnlifiad gan grwpiau ethnig allanol wedi trawsnewid [[demograffeg Cymru|demograffeg y wlad]] o ran hil a chrefydd. Mae ystyr yr enw Cymry wedi newid pan yn cyfeirio at [[cenedligrwydd sifig|genedligrwydd sifig]], ac yn crybwyll y newydd-ddyfodiaid hyn sydd yn mabwysiadu hunaniaeth Gymreig. Mae'r rhai a aned yng Nghymru yn meddu ar [[dinasyddiaeth|ddinasyddiaeth]] Brydeinig; nid oes diffiniad swyddogol o genedligrwydd Cymreig.
 
== Enw ac ystyr ==
=== Tarddiad yr enw Cymry ===
Gwreiddyn yr enw Cymro yw'r gair [[Brythoneg]] ''Combrogos'' (lluosog: ''combrogi''), enw'r [[Brythoniaid]] arnynt hwy eu hunain. Cyfuniad yw’r gair hwn o ''com'' (cyswllt neu berthynas) a ''bro'' (ffin neu derfyn), ac felly ystyr wreiddiol Cymro oedd cydwladwr.<ref name=Cymro>"[http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?Cymro Cymro]" yn ''GPC Ar lein'' (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2018). Adalwyd ar 27 Mehefin 2018.</ref> Mae'r elfen [[bro]] yn parhau'n air am wlad neu ardal yn yr iaith fodern. Ymddengys y gair yn gyntaf mewn [[cerdd fawl]] i [[Cadwallon ap Cadfan]]<ref>[[''Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig]]'', "CADWALLON AP CADFAN", tud. 112.</ref> sydd o bosib yn dyddio o'r 7g. Diflanodd y ''b'' tua'r flwyddyn 600, ond mae'r ''mb'' wedi aros yn y ffurf [[Lladin|Ladin]] am y wlad, ''[[Cambria]]'', yn ogystal â'r enwau [[Cumbria]] a Cumberland yng ngogledd Lloegr.<ref name=BLJ>[[Bedwyr Lewis Jones]]. ''Enwau (Llyfrau Llafar Gwlad)'' (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t. 4.</ref> Yr hen Gymry oedd brodorion gynt [[yr Hen Ogledd]]: o Gymbria yng ngogledd Lloegr ac o [[Ystrad Glud]] yn yr Alban. Cafodd Brythoniaid Cymru eu gwahanu oddi ar eu cydwladwyr yn Ystrad Glud gan [[Brwydr Caer|Frwydr Caer]] (615/6), ac yn ddiweddarach y llwyth yng ngorllewin Ynys Prydain oedd y Cymry.
 
Am amser maith, Cymry oedd y sillafiad a ddynodai’r bobl a’u tiriogaeth ddaearyddol, o enau [[Afon Dyfrdwy|Dyfrdwy]] yn y gogledd hyd at [[Cas-gwent|Gas-gwent]] yn y de. Yn yr 16g mabwysiadwyd y sillafiad "Cymru" i ddynodi'r wlad gan neilltuo "Cymry" ar gyfer y trigolion.<ref>''Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig'', "CYMRU (yr enw)", tud. 239.</ref> Yn y 19g cadarnhaodd yr arfer orgraffyddol o wahaniaethu rhwng Cymry'r bobl a Chymru'r wlad.
 
=== Enwau tramor ar y Cymry ===
Llinell 65 ⟶ 67:
== Cymry o dras estron ==
=== Saeson yng Nghymru ===
[[Delwedd:Born In England 2011 Census Wales.png|bawd|Map yn dangos y canran o bobl yng Nghymru a aned yn Lloegr yn ôl data Cyfrifiad 2011.]]
{{eginyn-adran}}
Mae 21% o drigolion Cymru wedi eu geni yn Lloegr, a 13.8% o'r boblogaeth yn arddel hunaniaeth Seisnig. Meddai ''Gwyddoniadur Cymru'': "Er bod llawer o'r mewnfudwyr hyn wedi ymgyfaddasu i fod, yng ngeiriau [[Gwyn A. Williams]], yn 'Gymry Newydd' – pobl yn cymryd rhan ddeallus a gweithredol ym mywyd y wlad – mae eraill wedi tueddu i beidio ag ymwneud â'r diwylliant cynhenid, ac wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at Seisnigo Cymru."<ref>"Saeson" yn ''Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig'', t. 830.</ref>
 
=== Roma ===
[[Delwedd:Gypsies camping - probably Swansea (8678055650).jpg|bawd|chwith|Teulu o Sipsiwn yn gwersylla ger Abertawe (1953).]]
Mae'n debyg i'r bobl [[Roma]] fyw yng Nghymru, neu deithio drwyddi, ers y 15g. Yn ôl traddodiad, [[Abram Wood]] neu "Frenin y Sipsiwn" oedd y cyntaf ohonynt i breswylio yng Nghymru yn barhaol a hynny yn y 18g. Bu'r mwyafrif o Roma Cymreig ers hynny yn honni'r un waedoliaeth a chyfeirir atynt felly fel teulu Abram Wood. Yr enw safonol arnynt yw'r Kale. Maent yn perthyn i'r [[Romanichal]] yn Lloegr, ac mae'r hen iaith Romani Gymreig ar y cyfan yn unfath â'r Eingl-Romani. Bu'r dafodiaith Gymreig yn goroesi yn y gogledd hyd at 1950, ac er ei fod yn ffurf ar [[Romani (iaith)|Romani]] ac felly o deulu'r [[ieithoedd Indo-Ariaidd]], mae ganddi nifer o fenthyceiriau Cymraeg a Saesneg. Er iddynt parhau a'u [[bywyd crwydrol]] yn y 19g a dechrau'r 20g, cawsant eu cymhathu i ddiwylliant y Cymry mewn sawl ffordd, gan gynnwys troi at Gristnogaeth, mabwysiadu cyfenwau Cymraeg, a chymryd rhan mewn eisteddfodau. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 0.1% o boblogaeth Cymru yn ystyried eu hunain yn Sipsi neu [[Teithwyr Gwyddelig|Deithiwr Gwyddelig]] o ran eu hethnigrwydd.