Lladin Llafar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 77:
Er enghraifft, yn Lladin, roedd y geiriau am "caraf" a "carwn" yn ''amō'' ac ''amāmus''. Yn [[Hen Ffrangeg]] achosodd yr A accenog [[dipthong]] gan achosi ''(j’)'''ai'''me'' ac ''(nous) '''a'''mons''. Er bod nifer o ffonemau wedi’u colli yn y ddau achos, cadwyd gwahaniaeth rhyngddynt oherwydd yr aceniad. Mae dylanwadau rheoleiddio wedi dadwneud yr effaith yn nifer o achosion (y ffurf fodern yn [[Ffrangeg]] yw ''nous '''ai'''mons'') ond mae rhai berfau modern wedi cadw’r ffurf afreolaidd, fel ''je v'''ie'''ns'' (dof) yn erbyn ''nous v'''e'''nons'' (down), a ddaeth o’r [[Lladin]] ''veniō'' a ''venīmus''.
Crëwyd amser dyfodol newydd ar ferfau Lladin Llafar gan ddefnyddio berfau cyfnerthu. Oherwydd cyfuniad y /b/ a’r /w/, daeth ffurfiau’r dyfodol fel ''amabit'', i swnio’n union fel y ffurfiau perffaith fel ''amauit'', gan gyflwyno amwysedd annerbyniol. Ffurfiwyd dyfodol newydd gyda’r ferf cyfnerthu ''habere'', ''*amare habeo'', yn llythrennol "caru caf". Fe gyfangwyd y ffurf newydd hon gan droi’n olddodiad dyfodol yn yr ieithoedd Romáwns gorllewinol. Gweler enghreifftiau o "byddaf yn caru/cara i" yn yr ieithoedd fodernmodern:
*[[Ffrangeg]]: '''''j’aimerai''''' (''je'' + ''aimer'' + ''ai'') < ''aimer'' [caru] + ''ai'' [caf]