Heraclius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: vi:Heraclius
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: th:จักรพรรดิเฮราคลิอัส; cosmetic changes
Llinell 1:
[[ImageDelwedd:Solidus-Heraclius-sb0764.jpg|bawd|300px|Heraclius a'i feibion ar ''solidus'']]
 
[[Yr Ymerodraeth Fysantaidd|Ymerawdwr Bysantaidd]] rhwng [[610]] a [[641]] oedd '''Heraclius''', [[Groeg (iaith)|Groeg]]: Ηράκλειος, '''Hērakleios''' (c. [[575]] – [[11 Chwefror]], [[641]].
 
Roedd ei dad, hefyd o'r enw Heraclius, wedi bod yn un o gadfridogion amlycaf yr ymerawdwr [[Mauricius]], a daeth yn ''exarch'' talaith Affrica. Yn [[608]] dechreuodd y ddau Heraclius wrthryfel yn erbyn yr ymerawdwr [[Phocas]], ac yn [[610]] daeth Heraclius y mab yn ymerawdwr, gan ladd Phocas a'i ddwylo ei hun.
 
Ymosododd y Persiaid ar [[Asia Leiaf]], gan gipio [[Damascus]] a [[Jeriwsalem]] a dwyn [[y Wir Groes]] i [[Ctesiphon]]. Llwyddodd Heraclius i ddinistrio'r fyddin Bersaidd ger [[Nineveh]] yn [[627]], a dychwelyd y Wir Groes i Jeriwsalem yn [[629]]. Roedd yr ymladd wedi gwanhau yr ymerodraeth Fysantaidd a'r Persiaid fel ei gilydd, gan ei gwneud yn anodd iddynt wrthsefyll y byddinoedd [[Arab|Arabaidd]]aidd a ymosododd arnynt yn y blynyddoedd nesaf. Gorchfygwyd y Bysantiaid gan yr Arabiaid ym Mrwydr Yarmuk yn [[636]], tra syrthiodd Ctesiphon iddynt yn [[634]].
 
Heraclius oedd yr ymerawdwr cyntaf i ddefnyddio'r teitl Groeg ''[[Basileus]]'' (Βασιλεύς) yn lle'r teirl [[Lladin]] traddodiadol ''Augustus'', a dechreuwyd defnyddio Groeg yn lle Lladin mewn dogfennau swyddogol. Roedd llawer o ddadleuon diwinyddol rhwng y [[monoffisiaeth|monoffisiaid]] a'r [[Chalcedoniaid]], ac awgrymodd Heraclius gyfaddawd, [[monotheletiaeth]], a gyhoeddwyd mewn dogfen a roddwyd ar narthex eglwys Hagia Sophia yn 638. Erbyn hyn roedd yr Arabiaid wedi cipio Syria a Palesteina, a syrthiodd [[yr Aifft]] iddynt yn 642.
 
Llwyddodd Heraclius i sefydlu brenhinllin yr Heracliaid, a barhaodd hyd 711.
 
[[Categori:Ymerodron Bysantaidd]]
Llinell 49:
[[sr:Ираклије]]
[[sv:Herakleios]]
[[th:จักรพรรดิเฮราคลิอัส]]
[[tl:Heraclius]]
[[tr:Herakleios]]