Tennessee Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 4:
Nid yn Nhennessee ond yn [[Columbus, Mississippi|Columbus]], [[Mississippi]], y'i ganwyd, a hynny ar 26 Mawrth 1911 yn nhŷ ei daid a oedd yn offeiriad Anglicanaidd. Daeth ei enw canol, Lanier o [[Virginia]]. Yn bump oed roedd yn sal iawn efo diphtheria. Roedd rhaid iddo aros yn ei wely am ddwy flynedd - ac yna y dechreuodd ddarllen o ddifri dan ddylanwad ei fam. Cornelius Williams oedd ei dad ond efallai oherwydd salwch ei fab cafodd Tennessee fawr o sylw ganddo.
 
Mam ddominyddol go iawn - fel ambell un o'i gymeriadau - oedd ei fam, Edwina Dakin Williams - ac roedd gan mwy nag un aelod o'r teulu broblemau meddyliol. Aeth i Brifysgol [[Missouri]] yn y tridegau lle bathwyd yr enw "Tennessee" gan y myfyrwyr eraill; mae stori arall amdano yn adrodd hanes y teulu yn ymladd yn erbyn brodorion [[Tennessee]]. Wedi iddo farw aeth ei holl arian i brifysgol yn Nhennessee. Erbyn diwedd y tridegau graddiodd ef o Brifysgol Iowa (ym 1938). Ei ddrama bwysicafgynharaf oedd 'Cairo, Shanghai, Bombay!' a gynhyrchwyd yn 1935 ym [[Memphis, Tennessee|Memphis]], Tennessee.
 
==Gwaith llenyddol==