Maelienydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: Cymaron
Llinell 17:
Daeth Maelienydd yn ardal o bwys strategol mawr ar ôl dyfodiad y [[Normaniaid]], oherwydd ei lleoliad. Mae'n ymddangos ei bod dan reolaeth Normanaidd erbyn [[1093]], pan godwyd [[Castell Cymaron]] ond yn y [[12g]] daeth yn ardal yr ymladdwyd drosti gan arglwyddi Cymreig lleol, yn enwedig [[Cadwallon ap Madog]], a'r [[Mortimer (teulu)|Mortimeriaid]] grymus. Yn [[1179]] lladdwyd Cadwallon gan rhai o ddeiliaid [[Roger Mortimer]] wrth iddo ddychwelyd i Bowys ar ôl ymweld â llys [[Harri II o Loegr]]. Gan fod Cadwallon yn ddeiliad i'r brenin mewn enw, carcharwyd Roger Mortimer gan y brenin, a geisiai danseilio grym arglwyddi Normanaidd annibynnol [[y Mers]], ac etifeddwyd Maelienydd gan fab Cadwallon, [[Maelgwn ap Cadwallon]]. Pan ryddhawyd Roger Mortimer o'r carchar cipiodd ran helaeth yr arglwyddiaeth, ond yn ddiweddarach llwyddodd Maelgwn i adfer ei feddiant gyda chymorth [[Rhys ap Gruffudd]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]]. Ar ôl marwolaeth Rhys cipiwyd y diriogaeth gan y Mortimeriaid eto.
 
Parhaodd yr ymgiprys am reolaeth ar Faelienydd yn y [[13g]], pan ddaeth yn llwyfan i frwydro rhwng lluoedd brenin Lloegr a [[Llywelyn Fawr]] a [[Llywelyn ap Gruffudd]] o [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]]. Yn y cyfnod hwnnw codwydbu cryn ymladd am sawl [[castell]] ym Maelienydd, yn cynnwys [[Castell Cefnllys]] a [[Castell Cymaron|Chymaron]].
 
Credir fod un o'r prif fersiynau o'r [[Cyfraith Hywel Dda|Cyfreithiau Cymreig]], fersiwn Cyfnerth, gael ei llunio ym Maelienydd pan fu dan ddylanwad [[Rhys ap Gruffudd]] o Ddeheubarth yn ail hanner y [[12g]].