Castell Cwm Aron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Castell Cwm Aron
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Location map | Cymru
| mark = Green pog.svg <!--green dot-->
| alt = Castell CymaronCwm Aron
| caption = Castell CymaronCwm Aron yng Nghymuned [[Llanddewi Ystradenni]] heddiw.
| label = Castell Cymaron
| position = left
Llinell 15:
[[Delwedd:Map of the Cantrefs and Commotes of Rhwng Gwy a Hafren.svg|bawd|Lleoliad [[Maelienydd]]]]
 
Atgyfnerthwyd y castell yn 1144 gan fab Ranulph, sef Hugh I de Mortemer, ond prif gartre'r teulu oedd Castell Wigmore, Lloegr - 15 milltir o Gastell Cwm Aron.
 
==Cefndir==
Yn y 1090au roedd llawer o frwydro am bwer rhwng Normandi a Lloegr; newidiodd Ranulph ei deyrngarwch sawl tro, ond yn y diwedd, ochrodd gyda dug Normandi.<ref>Barlow, t. 324</ref> Yn nhiroedd y Mers yn 1093, y newidiodd ei deyrngarwch at y Normaniaid, gan ochri gyda Roger de Montgomerie, iarll 1af yr Amwythig, Ralph Tosny o Gastell Cliford, Philip de Braose oedd wedi meddiannu rhannau o [[Pencraig|Bencraig]] (Saesneg: ''Old Radnor''). Ymosododd y tri ar Faesyfed (Powys heddiw) a Chynllibwg, [[rhwng Gwy a Hafren]]. Aethant ati i adeiladu nifer o gestyll er mwyn dal eu gafael yn y tiroedd hyn roeddent wedi'i ddwyn.<ref>Davies, N.''The Isles: A History'' ({{ISBN|0195134427}}), 1999, p.&nbsp;281</ref><ref name = "Remfry, 1998">[http://www.britarch.ac.uk/BA/ba34/ba34feat.html British Archaeology, no 34, Mai 1998 (ISSN 1357-4442): Paul Remfry. ''Discovering the lost kingdom of Radnor'']</ref> Ymhlith y cestyll hyn roedd Castell Dinieithon (ger Llandrindod, heddiw) a Chastell CymaronCwm Aron, ym Meaelienydd - rhwng
[[Llanbister]] a [[Llangynllo, Powys]].<ref>http://www.castles99.ukprint.com/Essays/cymaron.html, http://www.gatehouse-gazetteer.info/Welshsites/845.html</ref> Llwyddodd teuluoedd y gwŷr hyn ddal eu gafael yn y tiroedd am tua can mlynedd pan gododd y Cymry lleol yn eu herbyn yn 1148.<ref name = "Remfry, 1998"/>
 
Llinell 24:
Noda'r ''[[Brutiau]]'' i'r castell gael ei atgyweirio yn 1144, yn dilyn cryn ymladd ym Maelienydd. Yn 1179 ceir cofnod yn y ''Pipe Rolls'' o daliadau eraill i atgyfnerthu'r castell, yn dilyn carcharu Roger Mortimer am ladd [[Cadwallon ap Madog]] (bu farw 22 Medi 1179), brenin Maelienydd, a oedd wedi'i gymryd dan ofal brenin Lloegr. Trosglwyddwyd y castell i ofal Ralph le Poer, Siryf Henffordd.
 
Yn 1195 ceir cofnod o daliadau pellach, a nodir hefyd i Abad Pershore gael ei ddirwyo gan frenin Lloegr am wrthod rhyddhau ei farchogion ar gyfer y fyddin Saesnig ynyng CymaronNghastell Cwm Aron, sy'n dystiolaeth fod byddin o Anglo-Normaniaid wedi ymgasglu yno. Sefydlwyd y gwarchae gan Feibion Cadwallon. Cipiodd y Tywysog [[Llywelyn ap Iorwerth]] y castell, fwy na thebyg yn dilyn gwarchae.
 
Ym Mai 1215 ymosododd Llywelyn ap Iorwerth ar dref [[Amwythig]] gan ei gipio heb lawer o drafferth; oddi yno aeth yn ei flaen i gipio [[Trefaldwyn]] ac yna Castell ''Kamhawn'' (Cymaron).<ref>''The Sieges of Castell Cymaron'', adroddiad gan Gildas Research ar gyfer [[Llywodraeth Cymru]], dyddiedig Tachwedd 2013; awdur - Scott Lloyd. Adalwyd 29 Gorffennaf 2018.</ref> Ceir un cofnod o hyn, yn Nhestun-D yr ''[[Annales Cambriae]]'' a gedwir yn Exeter MS 3514 (a sgwennwyd c.1285), ac ni welodd olau dydd hyd at 1939; fe'i cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1946.
 
Gwelir olion peiriannau gwarchae ychydig i'r de o'r castell, ac mae'r ardal hon hefyd (ers 1991) wedi'u cofrestru fel ardal gadwraethol. Hyd at 2018 ni fu unrhyw ymchwilio archaeolegol o'r castell na'r ardal yma. Yn 1858 cofnododd Jonathan Williams i belen canon (neu fagnel) gael ei ganfod yma.<ref>Jonathan Williams, ''History of Radnorshire'', ''Archaeologia Cambrensis'' (1858), 506</ref> Mewn llun o'r awyr a gymerwyd yn 1990 gwelir dau fwnt a leolir i'r de o'r castell ar gopa bryncyn bychan. Mae'r castell ei hun 80m o'r naill fwnt a 130m o'r llall, ac felly o fewn tafliad carreg (neu belen canon).<ref>Y Comisiwn Brenhinol dros Henion... C62231, t. 1.</ref>
 
==Mannau eraill yn yr un cyfnod==
Yn 1195, yn dilyn llwyddiant Llywelyn a'r fyddin Gymreig i gipio Castell CymaronCwm Aron, cafwyd cryn lwyddiant yn ne Cymru gyda'r [[Arglwydd Rhys]] ([[1132]] – [[28 Ebrill]] [[1197]]) tywysog teyrnas [[Deheubarth]] yn cymryd Castell Colwyn (SO 108540) a [[Maesyfed (pentref)|Chastell Maesyfed]] gan ei losgi'n ulw ac yr un diwrnod cafwyd brwydr enbyd rhwng yr Arglwydd Rhys a Roger Mortimer (a'i gyfaill [[Hugh de Sais]]) ychydig y tu allan i bentref Maesyfed. Y Cymry oedd yn fuddugol.
 
Erbyn 1202 roedd yr Arglwydd Rhys wedi cymryd Castell Gwerthrynion, un arall o gestyll Roger Mortimer.
 
Yn Rhagfyr 1215 gwelwyd byddin Llywelyn Fawr yn cipio Castell CymaronCwm Aron.
 
 
Llinell 40 ⟶ 42:
 
[[Categori:Cestyll Powys]]
[[Categori:Cestyll Normanaidd|Castell Cwm Aron]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith y 12fed ganrif]]