Puteindra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: sw:Ukahaba
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: af:Prostitusie; cosmetic changes
Llinell 1:
:''Mae 'putain' a 'hwran' yn ailgyfeirio yma.''
[[ImageDelwedd:0405.Annabell 002.jpg|250px|bawd|Putain yn yr Almaen]]
Y weithred o werthu [[cyfathrach rhywiol]] neu wasanaethau [[rhyw]]iol eraill yw '''puteindra'''. Fe'i gelwir yn aml "yr alwedigaeth hynaf yn y byd" am fod gan yr arfer hanes hir iawn. Mae'r sefyllfa dan y gyfraith yn amrywio'n fawr o wlad i wlad ac mae wedi newid hefyd o gyfnod i gyfnod: mewn rhai gwledydd mae'n gyfreithlon ond mewn ambell wlad mae'n drosedd ddifrifol. Cysylltir puteindra â merched sy'n cynnig eu gwasanaethau i ddynion yn bennaf, ond ceir puteiniaid grwywaidd hefyd, naill ai'n [[hoyw]] neu fel cwmni i ferched.
 
Ceir sawl enw [[Cymraeg]] i ddisgrifio rywun sy'n puteinio ei hunan. Y mwyaf cyffredin yw '''putain''' a '''hwran'''.
Llinell 8:
 
== Cymru ==
=== Hanesyddol ===
Mae testunau [[Cyfraith Hywel]] yn cydnabod bodolaeth puteindra yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol. Ceir cymalau yn y llyfrau cyfraith am statws y butain, gan ddefnyddio'r gair hwnnw; o blith merched a gwragedd, dim ond y butain sydd heb yr hawl i iawndal os caiff ei threisio. Ceir cyfeiriadau hefyd at "ferched perth a llwyn" (cymharer y dywediad "plentyn perth a llwyn" am "blentyn siawns"), ond mae'n aneglur os oedd y merched hynny yn cael eu hystyried yn buteiniaid fel y cyfryw gan fod cariadon yn cwrdd yn y goedwig hefyd - sy'n olygfa ystrydebol yng nghanu serch y cyfnod - er bod awgrym fod rhai ohonynt yn buteiniaid.<ref>Dafydd Jenkins a Morfydd E. Owen (gol.), ''The Welsh Law of Women'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980), tt. 35, 91.</ref> Mae gan y bardd [[Prydydd Breuan]] (fl. canol y 14eg ganrif) gerdd filain a phersonol iawn ei naws i ferch anhysbys o'r enw Siwan Morgan o [[Aberteifi]]. Mae'n gerdd syfrdanol o fras a masweddus sy'n darlunio Siwan fel putain flonegog aflan, dwyllodrus, sydd wedi cael "saith cant cnych" neu ragor.
 
Yn fwy diweddar, roedd ardal [[Bae Caerdydd]] (a dinas [[Caerdydd]] yn gyffredinol) yn adnabyddus am ei phuteiniaid. Yn y [[18fed ganrif yng Nghymru|ddeunawfed ganrif]], yn ôl [[Iolo Morganwg]], roedd "puteiniaid Caerdydd" yn ddywediad cyffredin ym Mro Morgannwg.<ref>G. J. Williams, ''Iolo Morganwg'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1956), tud. 31.</ref>
 
=== Cyfoes ===
Mewn adroddiad gan [[BBC Cymru]] yn 2000, honnir fod tua 30 o buteiniaid ifainc, rhai ohonynt [[Oed cydsyniad|dan oed]], yn gweithio ar y stryd mewn un ardal yng nghanol Caerdydd.<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/677777.stm BBC Wales "Social workers at 'breaking point'", 15 Mawrth, 2000]</ref> Yn 2007, cafodd tri pherson eu deddfrydu i garchar am redeg puteindai mewn tai preifat yn [[Rhuddlan]], [[Penmaenmawr]] a [[Bae Colwyn]] yng ngogledd Cymru. Merched o dde-ddwyrain Asia, yn cynnwys [[Tsieina]], oedd yn gweithio yno, ac roedd y fusnes yn cael ei rhedeg gan Gymro, Sais a merch o dras Tsieineaidd.<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7041939.stm BBC Wales "Three jailed for running brothel", 12 Hydref, 2007]</ref>
 
Llinell 25:
 
{{eginyn rhyw}}
 
[[Categori:Diwydiant rhyw]]
[[Categori:Rhyw]]
 
[[af:Prostitusie]]
[[ar:دعارة]]
[[az:Fahişəlik]]