Marlon Brando: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 14:
Roedd '''Marlon Brando, Jr.''' ([[3 Ebrill]], [[1924]] – [[1 Mehefin]], [[2004]]) yn actor Americanaidd, enillydd [[Oscar]], a ystyrir yn un o'r actorion ffilm mwyaf yr [[20fed ganrif]].
 
Daeth â thechnegau [[actio method]] (neu'r [[System Stanislavski]] cyffelyb) a ddysgodd yn [[Actors Studio]], [[Efrog Newydd]], i amlygrwydd yn y ffilmiau ''[[A Streetcar Named Desire (ffilm 1951)|A Streetcar Named Desire]]'' ac ''[[On the Waterfront]]'', a gyfarwyddwyd ill dau gan [[Elia Kazan]] yn y [[1950au]] cynnar. Cafodd ei ddull actio, ynghyd â'i bersona cyhoeddus fel dyn ar yr ymylon heb ddiddordeb yn [[Hollywood]] "swyddogol" y cyfnod, effaith bellgyrhaeddol ar y genhedlaeth o actorion newydd a ddaeth i'r amlwg ar ddiwedd y pumdegau ac yn ystod y [[1960au]] cynnar.
 
Cymerai Marlon Brando ran amlwg mewn gweithgareddau gwleidyddol yn ogystal, e.e. y [[Mudiad Hawliau Dinesig America|Mudiad Hawliau Dinesig]] yn America a'r [[American Indian Movement]].