Gelli Aur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
B cat
Llinell 3:
Adeiladwyd y plasdy gwreiddiol gan deulu dylanwadol Vaughan rhwng [[1565]] a [[1570]]. Ymhlith aelodau'r teulu hwn roedd [[William Vaughan]] (1575 - 1641), sefydlydd trefedigaeth Gymreig [[Cambriol]] yn [[Newfoundland]], a [[Richard Vaughan, 2il Iarll Carbery]]. Rhoddodd Richard Vaughan loches i [[Jeremy Taylor]] yn y Gelli Aur, ac yno yr ysgrifennodd ei lyfr enwog ''Holy Living and Holy Dying'', llyfr a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan [[Ellis Wynne]] fel ''Rheol Buchedd Sanctaidd''.
 
Bu farw'r olaf o'r Vaughaniaid yn ddi-blant yn [[1804]], a daeth y stad yn eiddo teulu Cawdor. Y teulu yma a adeiladodd y plasdy presennol, rhwng 1827 a 1832. Mae'r plasdy a'r tiroedd o'i gwmpas yn awr yn eiddo i [[Cyngor Sir Gaerfyrddin|Gyngor Sir Gaerfyrddin]], ac yn ffurfio Parc Gwledig Gelli Aur.
 
[[Categori:Plasdai Sir Gaerfyrddin]]
 
[[en:Golden Grove]]